OPIN-2007- 0051 - Offer Trydanol i Hyfforddi Cwn/Electric Dog Training Devices

Published 07/06/2014   |   Last Updated 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG /
WRITTEN STATEMENTS OF OPINION

A GYFLWYNWYD / TABLED ON 03/07/2007 R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
R Signifies the Member has declared an interest

OPIN-2007- 0051 - Offer Trydanol i Hyfforddi Cŵn/Electric Dog Training Devices

Codwyd gan / Raised By: Andrew RT Davies Tanysgrifwyr / Subscribers: Jocelyn Davies 04/07/2007 Rhodri Glyn Thomas 04/07/2007 Mohammad Asghar 04/07/2007 Dai Lloyd 04/07/2007 Nerys Evans 04/07/2007 Nick Bourne 04/07/2007 Paul Davies 05/07/2007 Mark Isherwood 05/07/2007 Angela Burns 10/07/2007 Nick Ramsay 10/07/2007 Leanne Wood 23/07/2007 Offer Trydanol i Hyfforddi Cŵn Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn condemnio gwerthu, cynhyrchu, llogi, benthyg, mewnforio neu ddefnyddio offer trydanol i hyfforddi a rheoli cŵn, ac eithrio ffensys trydan, sy’n gweithredu ar egwyddor wahanol; yn ystyried bod defnyddio offer o’r fath yn greulon ac yn ddianghenraid; yn deall bod dulliau hyfforddi cadarnhaol yn hyfforddi cŵn yn gynt ac yn fwy dibynadwy; yn cydnabod, oherwydd bod gan gŵn berthynas mor glos â phobl, bod modd defnyddio eu greddf naturiol i’w hyfforddi’n rhwydd; ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar werthu, cynhyrchu, llogi, benthyg, mewnforio neu ddefnyddio offer hyfforddi trydanol. Electric Dog Training Devices The National Assembly for Wales condemns the sale, manufacture, hire, loan, importation or use of electric training devices to train and control dogs, with the exception of electric fences, which operate on a different principle; considers the use of such devices to be cruel and unnecessary; understands positive training methods train dogs more quickly and reliably; recognises that because dogs have a strong bond with humans, their natural instincts can be utilised to train them easily; and calls upon the Assembly Government to introduce a complete ban on the sale, manufacture, hire, loan, importation or use of electric training devices.

Amendments

A01    04 July 2007    Raised by Lorraine Barrett Tanysgrifwyr / Subscribers: Irene James 05/07/2007 Lesley Griffiths 06/07/2007 Sandy Mewies 06/07/2007 Brynle Williams 12/07/2007 Trish Law 12/07/2007 Offer Trydanol i Hyfforddi Cwn Ac ystyried nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwer i wahardd gwerthu, cynhyrchu, llogi, benthyg na mewnforio coleri cwn sy’n rhoi sioc drydanol, yr ydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig i gynnal ymgynghoriad llawn ar y mater hwn ac edrychwn ymlaen at y diwrnod pan fydd defnyddio’r offer arteithio hyn wedi’i wahardd yng Nghymru. Electric Dog Training Devices Given that the National Assembly for Wales does not have the power to ban the sale, manufacture, hire, loan or importation of electric shock dog collars, we welcome the commitment of the Minister for Sustainability and Rural Development to undertake a full consultation on this matter and look forward to the day when the use of these instruments of torture are banned in Wales.