Y Bwrdd Gweithredol â'r ​Tîm Arweinyddiaeth

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Y Bwrdd Gweithredol

Y Bwrdd Gweithredol yw'r corff penderfynu strategol ar gyfer pob mater sydd o fewn yr awdurdod sydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr gan Comisiwn y Senedd, ac mae'n gyfrifol am gyflawni nodau a blaenoriaethau'r sefydliad yn gyffredinol.  Mae'r Bwrdd hefyd yn gorff ymgynghorol i Comisiwn y Senedd, er mwyn sicrhau ei fod yn cael y cyngor gorau posibl wrth bennu strategaeth, nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn, y Gyllideb, ac wrth wneud penderfyniadau.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod adnoddau'r Comisiwn yn cael eu cynllunio i gwrdd â gofynion hysbys, yn cael eu dyrannu yn unol â blaenoriaethau corfforaethol a bod adnoddau staffio yn cael eu rheoli o fewn y terfynau ariannu a sefydliad y cytunwyd arnynt.

 

Tîm Arweinyddiaeth

Y Tîm Arweinyddiaeth yw'r corff ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol ac yn gyfrwng i gyflwyno cynlluniau gweithredol, blaenoriaethau a'n trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Bydd yn gweithredu ar y cyd er budd corfforaethol y Comisiwn.

Fel arweinwyr y sefydliad, bydd y Tîm yn gyfrifol am gyfnewid a lledaenu gwybodaeth a bydd yn gweithio'n adeiladol ar draws gwasanaethau i wella a chryfhau’r broses o ddatblygu syniadau a chynigion a gaiff eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol neu'r Comisiwn i sicrhau bod cyllidebau ac adnoddau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn hyblyg i sicrhau bod gwasanaethau a blaenoriaethau yn cael eu darparu ar draws y sefydliad.

Bydd gofyn i'r Tîm Arweinyddiaeth weithio o fewn dirprwyaethau a wneir gan y Bwrdd Gweithredol ac o fewn y fframwaith llywodraethu a sicrwydd.