Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :


 

Adnewyddu Ein Democratiaeth


Mae Comisiwn y Senedd yn arwain diwygiadau i helpu i greu democratiaeth sy'n addas at y dyfodol.

 

Rhaglen Diwygio'r Senedd

Mae'r Senedd heddiw yn wahanol iawn i'r Cynulliad a sefydlwyd ym 1999. Bryd hynny, nid oedd gan y sefydliad unrhyw bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi'i wahanu'n ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae'n codi trethi, yn deddfu ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai o'r meysydd sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl.

Ar ôl 20 mlynedd o gynrychioli a chyflawni dros Gymru, mae'r Senedd wedi datblygu i fod yn senedd lawn.

Cam un: Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

Ar ôl trafodaeth, ymgynghori a dadl helaeth, pleidleisiodd yr Aelodau dros ddeddf newydd a fyddai:

  •  - yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd i 16;
  •  - yn newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru neu Welsh Parliament;
  •  - yn galw'r cynrychiolwyr etholedig yn "Aelod o'r Senedd" (AS) neu'n "Member of the Senedd" (MS);
  •  - yn newid y gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod;
  •  - yn caniatáu i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.
  •  - yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol fod yn atebol i'r Senedd ar gyfer etholiadau datganoledig a chael ei ariannu ganddi.  

 

 

 

 

 

Pleidlais i bobl 16 oed

Gostyngodd y Ddeddf Senedd ac Etholiadau yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd i 16 oed, o 2021, gan roi llais iddynt ar benderfyniadau a fydd yn diffinio’u dyfodol.


Rhagor o wybodaeth am bleidleisiau i bobl 16 oed >

 

 

 

 

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Senedd

Fe wnaeth Deddf Senedd ac Etholiadau newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru neu Welsh Parliament, i’w adnabod yn gyffredin fel y Senedd.

Mae ein senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd fel y Cynulliad ym 1999. Bellach mae ganddo bwerau deddfu llawn a'r gallu i amrywio trethi, ac mae'r enw newydd yn cyfleu statws cyfansoddiadol y Senedd fel senedd genedlaethol sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob un ohonom yng Nghymru.

Pasiwyd y Ddeddf yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn dangos bod 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

 

 
 

 

 

 

 

 

Gweinyddu etholiadau yng Nghymru

 

Mae'r Ddeddf yn rhoi eglurder i ddarpar ymgeiswyr ynghylch a ydynt yn gymwys i sefyll etholiad, gan alluogi mwy o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf.

Yn ogystal, mae'n darparu i'r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu gan y Senedd a bod yn atebol iddi am ei waith mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Senedd.

Rhagor o wybodaeth >

 

 
 
 

 

"Y bwriad yw mai pleidleisiau yn 16 oed ac ailenwi'r Cynulliad fydd y cam cyntaf yn rhaglen ddiwygio ehangach. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i greu democratiaeth yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol erbyn 2021."

- Elin Jones AS, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Darllenwch ragor >

 
 

Sut y daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) (2020) yn gyfraith?

 

Daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn gyfraith ar 15 Ionawr 2020.

Fel yn achos unrhyw ddeddfwriaeth, aeth y Ddeddf drwy’r prosesau craffu deddfwriaethol llawn.

Roedd y Ddeddf yn gofyn am “uwch-fwyafrif” yn ei gyfnod deddfwriaethol olaf; roedd angen i o leiaf 40 Aelod bleidleisio o blaid.

 

Rhagor o wybodaeth am graffu ar y Ddeddf

 
 

 

 

 

 

Diwygio’r Cynulliad: Cam 2

Cam dau:

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynglŷn â nifer yr Aelodau o’r Senedd sydd eu hangen ar Gymru, sut maent yn cael eu hethol a sut mae sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n llawn y cymunedau a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

 

Ym mis Gorffennaf 2019, cytunodd yr Aelodau fod angen cynyddu nifer yr Aelodau etholedig, ac y dylid gwneud gwaith trawsbleidiol pellach i fwrw ymlaen â hyn. Fodd bynnag, nid oes consensws eto ar y system bleidleisio y dylid ei defnyddio i ethol y sefydliad mwy hwnnw, nac o ran y mesurau a allai annog ethol deddfwrfa fwy amrywiol.

Mae pwyllgor wedi cael ei sefydlu i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Mae'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd mewn sefyllfa dda i sicrhau bod maint a threfniadau etholiadol y Senedd yn cael eu trafod mewn ffordd dryloyw a thrawsbleidiol, a bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau maes o law.   

 

 

 
 

 

Nid yw democratiaeth yn sefyll yn ei unfan.

Cael rhagor o wybodaeth a chefndir Rhaglen Diwygio'r Cynulliad.

 

Amserlen Diwygio'r Senedd

Dysgwch ragor am y gwaith sydd ar y gweill i helpu i greu democratiaeth yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol.

Dysgwch ragor am amserlen y broses ddiwygio >

 

 

Canlyniadau'r Ymgynghoriad Cyhoeddus

Dysgwch ragor am yr ymgynghoriad cyhoeddus 'Creu Senedd i Gymru', a chael y canlyniadau.

Rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus >

 

Beth yw Comisiwn y Senedd?

Corff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad.

Rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Cynulliad >


 

 

 

Cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch chi gael yr holl newyddion a gwybodaeth diweddaraf ar raglen Diwygio'r Senedd.

 

Gweld popeth >

Cofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf >

 

 

 

Title



Partners & Help