Ein Buddion

Gwobrau a buddion

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwobrwyo ein gweithwyr yn deg am eu gwaith caled a'u cyfraniad.

Byddwch yn cael eich penodi i un o'n graddfeydd cyflog ac fel arfer byddwch yn cael eich penodi ar bwynt cyntaf y band. Ar ben-blwydd eich dyddiad dechrau, cyn belled â'ch bod wedi dangos perfformiad boddhaol, byddwch yn symud ymlaen i'r pwynt cyflog nesaf. Bob blwyddyn byddwch yn symud ymlaen trwy'r graddfeydd cyflog nes i chi gyrraedd y pwynt uchaf. Dysgu mwy am ein graddfeydd cyflog.

Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw cynllunio ar gyfer y dyfodol ac rydym am i chi fod wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer ymddeol. Ar eich diwrnod cyntaf, byddwch yn ymuno â chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Byddwch yn derbyn eich opsiynau pensiwn o fewn eich ychydig wythnosau cyntaf. Byddwn yn cyfrannu 28.97 y cant o'ch cyflog at eich pensiwn.

Mae'n bwysig cymryd peth amser i ffwrdd o'r gwaith. Rydym yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â 12 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. Os nad ydych chi'n gweithio oriau amser llawn, byddwch chi'n derbyn hawl pro rata sy'n gymesur â'ch patrwm gwaith. Gallwch hefyd werthu hyd at bedwar diwrnod o wyliau blynyddol yn ôl y flwyddyn.

Rydym yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, fel rhan-amser, rhannu swyddi, gweithio yn ystod y tymor, gweithio gartref neu oriau cywasgedig. 

Rydym yn cynnig oriau gwaith hyblyg i'ch helpu i gydbwyso'ch swydd â'ch bywyd personol. Mae lefel yr hyblygrwydd yn dibynnu ar eich tîm a'r hyn sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith. 

Mae llawer o'n rolau'n gydnaws â phatrwm gweithio hybrid; mae nifer y dyddiau ar y safle bob wythnos yn amrywio yn ôl timau penodol. 

Bydd eich gweithle cytundebol yn un o'r lleoliadau canlynol: 

- Swyddfa Bae Caerdydd

- Swyddfa Sarn Mynach 

- Eich cyfeiriad cartref cofrestredig (ar gyfer gweithwyr a ddynodwyd yn weithwyr cartref) 

Rydym wedi ymrwymo i'ch datblygiad parhaus. Byddwch yn dechrau gyda chyfnod sefydlu wedi'i deilwra ac yn cael adolygiadau perfformiad rheolaidd i gefnogi eich twf.  

Mae ein canolfan ddysgu yn cynnig ystod eang o hyfforddiant mewnol, gan gynnwys cyrsiau iaith Gymraeg ar gyfer pob lefel.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni cymwysterau addysg bellach ac uwch, gallwn eich cefnogi trwy ddarparu cymorth ariannol a chyfnodau astudio. 

Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant, mentora, cysgodi swyddi, secondiadau a chymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant allanol. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hael o ran absenoldeb teulu i'ch cefnogi yn y dasg o reoli eich bywyd teuluol, p'un a yw hynny'n absenoldeb mamolaeth, cyd-rianta (tadolaeth), mabwysiadu neu’n absenoldeb rhiant a rennir.   

Rydym hefyd yn rhoi’r posibilrwydd i’n gweithwyr gymryd seibiant gyrfaol am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Gallech gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i deithio, astudio neu ganolbwyntio ar gyfrifoldebau gofalu. 

Rydym am i chi deimlo eich bod yn cael eich cefnogi cymaint â phosibl yn y Senedd. O'r diwrnod cyntaf, bydd modd i chi gwrdd â'n nyrs iechyd galwedigaethol a chael mynediad at ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n darparu mynediad at wasanaethau cwnsela. Mae gennym ni hefyd rwydweithiau gweithle cefnogol y gallwch chi ymgysylltu â nhw. 

Rydym yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith i ddiwallu eich anghenion. Gallant gynnwys: 

- Patrymau gwaith wedi'u haddasu 

- Technoleg gynorthwyol fel meddalwedd neu galedwedd 

- Offer ergonomig fel cadeiriau a desgiau sefyll 

Rydym yn ceisio eich cefnogi'n ariannol lle bo modd, ac i wneud hyn rydym yn cynnig aberthu cyflog ar y cynlluniau canlynol: 

- cynllun beicio i'r gwaith  

- cynllun cerbydau allyriadau isel iawn 

Rydym hefyd yn cynnig taliadau ymlaen llaw i dalu costau fel teithio i'r gwaith, offer TGCh ac aelodaeth o glwb iechyd. 

Mae gennym ddwy swyddfa ym Mae Caerdydd a Sarn Mynach. 

Os ydych chi'n gweithio yn ein swyddfa yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd, byddwch chi'n gweithio mewn ardal fywiog gyda digonedd o fwytai, caffis a lleoliadau adloniant. Gallwch fynd am dro amser cinio i fwynhau amgylchedd hardd y bae. 

Os ydych chi'n gweithio o swyddfa Sarn Mynach yng Nghyffordd Llandudno mae yna ddigon o gyfleusterau hamdden, teithiau cerdded ymlaciol gerllaw a mannau eistedd awyr agored lle gallwch chi ymgolli yng nghanol natur. Gallwch ymweld â threfi hardd Conwy, Llandudno a Bae Colwyn i siopa ac ar gyfer adloniant.    

Mae gan ein dau safle gawodydd a chyfleusterau ar y safle lle gallwch chi fwyta'ch brecwast, cinio neu sgwrsio â chydweithiwr.