Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn diffinio beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. 

 Mae'r ymddygiadau hyn yn llunio sut rydym yn trin ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr bob dydd. 

Maen nhw'n ein helpu i wneud y Senedd yn lle gwych i weithio. 

Rydym yn gynhwysol ac yn garedig ac rydym yn gwerthawrogi cyfraniadau ein gilydd wrth ddarparu gwasanaethau.

Angerdd

Rydyrm yn bwrpasol wrth gefnogi democratiaeth gan dynnu ynghyd I wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Blachder

Rydym yn arddel arloesedd ac yn dathlu ein llwyddiannau fel tim.

Beth mae ein cydweithwyr yn ei ddweud?

Leanne

Leanne ydw i, Prif Swyddog Pobl ac Uwch-hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol. Ces i fy magu yng nghymoedd de Cymru, a fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol. Nid oedd fy llwybr i Adnoddau Dynol yn un syth – rwyf wedi gorfod ymgodymu â galar (collais fy mam pan oeddwn i'n 20 oed ac yn y brifysgol), amheuaeth, a syndrom y ffugiwr  ond fe wnes i ddal ati. 

Rwy'n credu na ddylai pen draw eich taith gael ei benderfynu gan eich man cychwyn. Dyna pam helpais i lansio RISE, ein rhwydwaith symudedd cymdeithasol, a dyna’r rheswm rwy’n dadlau dros fynediad teg i gyfleoedd. Rwy'n angerddol dros greu gweithle lle gall pawb ffynnu, ni waeth beth fo'u cefndir. 

Mae symudedd cymdeithasol yn rhywbeth personol i mi. Os gallaf helpu hyd yn oed un person i gredu bod "dod yn rhywbeth" yn bosibl, yna mae'n werth chweil. 

Lukas

Rwy'n Ddirprwy Glerc Pwyllgor ac rwy'n caru fy swydd. Yn y Senedd, rwy'n gweld democratiaeth Cymru ar waith, a chaf gefnogi’r Pwyllgor yn ei rôl wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, yn enwedig mewn meysydd allweddol, fel yr amgylchedd a thrafnidiaeth. 

Mae gweithio yma yn caniatáu imi fod yn rhan o rywbeth mwy, ble gall pob adroddiad, pob argymhelliad a phob sgwrs helpu i wella bywydau pobl. Nid fi yn unig sy’n teimlo hyn – mae fy nghydweithwyr hefyd yn angerddol am greu Cymru well i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu o ble maen nhw'n dod. 

Shahzad

Shahzad yw fy enw i, ac ymunais â'r tîm Diogelwch saith mlynedd yn ôl.  

Yn fy ngwaith fel Swyddog Diogelwch yn y Senedd, mae pob dydd yn wahanol. Pa un a fyddaf yn cyfarfod â gwesteion sy'n mynd i ddadl fyw neu’n croesawu myfyrwyr sydd wedi dod i ddysgu am ddemocratiaeth Cymru, byddaf yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gael profiad diogel yn yr adeilad.  

Yn ystod fy amser yn y Senedd, braint i mi oedd mai fi oedd cludwr olaf y byrllysg ar gyfer Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II a chludwr cyntaf y byrllysg ar gyfer Ei Fawrhydi'r Brenin Charles III. Ar ben hynny, cefais fy ngwahodd i dderbyniad ym Mhalas Buckingham a gynhaliwyd i gydnabod gwaith a chyflawniadau arwyddocaol y Senedd.  

Senedd ddwyieithog

Rydym yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog sy'n gweithio ac yn cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rydym yn darparu gwasanaethau i Aelodau'r Senedd a'r cyhoedd yn ddwyieithog.  

Nid oes rhaid i chi siarad Cymraeg rhugl i ymuno â ni. Rydym yn hysbysebu llawer o rolau ar Lefel Cwrteisi Cymraeg, sy'n gofyn am ddealltwriaeth sylfaenol o'r iaith a'r gallu i ynganu enwau ac ymadroddion syml Cymraeg. Ni fydd hyn yn cael ei asesu cyn i chi ymuno â ni. Fodd bynnag, os byddwch chi'n dechrau gyda ni ac nad ydych chi'n cyrraedd Lefel Cwrteisi'r Gymraeg, byddwch chi'n cael hyfforddiant gan un o'n tiwtoriaid Cymraeg ymroddedig.  

Er mwyn i ni allu darparu gwasanaethau dwyieithog yn effeithiol, mae llawer o'r swyddi rydyn ni'n eu hysbysebu yn gofyn am lefel benodol o iaith Gymraeg (1-5). Bydd y swyddi hyn wedi'u marcio'n glir ar y disgrifiad swydd a'r hysbyseb.  

Os byddwch yn gwneud cais am un o'r swyddi hyn, bydd yn rhaid i chi gwblhau asesiad Cymraeg yn ystod y broses recriwtio.