- Daw’r cyflogeion ar ein paneli recriwtio o ystod amrywiol o gefndiroedd a swyddogaethau swydd. Mae aelodau'r panel yn cwblhau ein modiwl hyfforddi recriwtio cynhwysol sydd ag achrediad DPP.
- Rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar gymhwysedd a chyfweliadau strwythuredig a luniwyd i fod yn deg ac yn gynhwysol i bawb.
- A ninnau’n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl.
- Gall ymgeiswyr wneud cais am addasiadau rhesymol i’r broses recriwtio. Os hoffech siarad ag aelod o’n tîm yn gyfrinachol, cysylltwch â swyddi@senedd.cymru neu ffonio 0300 200 7588.
Recriwtio cynhwysol
Dyma sut rydym ni’n gwneud yn siŵr bod ein proses recriwtio yn gynhwysol.
Wrth recriwtio gweithwyr newydd, rydym yn sicrhau’r canlynol:
Pan fyddwch wedi ymuno â ni, byddwn yn:
- sicrhau bod gennych yr offer angenrheidiol i gyflawni eich rôl yn ddiogel ac yn effeithiol drwy ofyn i ddechreuwyr newydd lenwi holiadur iechyd, a adolygir gan ein nyrs iechyd galwedigaethol. Gall ein nyrs iechyd galwedigaethol eich cynghori ar sut y gallwn eich cefnogi yn y gweithle i'ch galluogi i gyflawni eich rôl yn ddiogel ac yn effeithiol, a hynny wrth gefnogi eich iechyd a'ch lles.
- eich gwneud yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i chi ar ffurf addasiadau rhesymol, rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, polisïau cynhwysol, cymorth iechyd galwedigaethol, mentrau llesiant, a chyfleoedd dysgu a datblygu.