Assembly Committee backs literacy and numeracy priority for Welsh schools
31 May 2012
A National Assembly for Wales committee has backed the findings of a report calling for the prioritisation of literacy and numeracy standards in Welsh schools.
The Children and Young People Committee supported the views on embedding key skills set out by education watchdog Estyn in its annual report.
The Committee has recommended that the Welsh Government’s new statutory Literacy and Numeracy Framework should include guidance for teachers and school leaders to ensure that opportunities to practice literacy and numeracy skills are embedded across the curriculum at all Key Stages and that best practice models are shared.
It also recommended that the Welsh Government should work with local authorities and forthcoming regional consortia, when established, to provide and encourage teachers to take up professional development opportunities to improve their confidence in using and teaching Welsh as a second language.
“Attaining high standards of literacy and numeracy during a child’s education is a major priority, as any ground lost during these early years will be magnified later in life, damaging their prospects for further development and employment, said Christine Chapman AM, Chair of the Children and Young People Committee.
“The Committee was concerned to hear about the high number of children entering Key Stage 3 with reading ages below their chronological ages and that numeracy performance among 14-19 year olds in Wales is lower than in the other UK nations.
“So we agree with the education inspector Estyn that opportunities to practice literacy and numeracy skills should be mainstreamed across all Key Stages in Welsh schools and that best practice models should be shared and standardised across Wales to promote development in these areas.”
Children and Young People Committee
Information on the Estyn Annual Report
DATGANIAD I’R WASG
PRESS RELEASE
Embargo tan 00:01 Dydd Iau 31 Mai
Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi canfyddiadau adroddiad sy’n galw am roi blaenoriaeth i safonau llythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru.
Roedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cefnogi’r farn ar blannu sgiliau allweddol a nodwyd gan Estyn, y corff gwarchod addysg, yn ei adroddiad blynyddol.
Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd statudol newydd Llywodraeth Cymru gynnwys canllawiau i athrawon ac arweinyddion ysgolion. Byddai hyn yn sicrhau bod cyfleoedd i ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd yn cael eu plannu ar draws y cwricwlwm ym mhob Cyfnod Allweddol a bod modelau arferion gorau’n cael eu rhannu.
Roedd hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, pan fyddant wedi’u sefydlu, i ddarparu cyfleoedd i athrawon ddatblygu’n broffesiynol a’u hannog i fanteisio arnynt. Byddai hyn yn gwella’u hyder o ran defnyddio’r Gymraeg a’i dysgu fel ail iaith.
“Mae sicrhau bod plentyn yn cyrraedd safon uchel o ran llythrennedd a rhifedd yn ystod ei addysg yn flaenoriaeth fawr, gan y bydd unrhyw dir a gollir yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn yn cael effaith fawr yn ddiweddarach yn ystod ei fywyd, gan niweidio ei ragolygon ar gyfer datblygiad pellach a chyflogaeth, meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
“Roedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed am y nifer uchel o blant sy’n mynd i Gyfnod Allweddol 3 gydag oed darllen is na’u hoed cronolegol a bod perfformiad rhifedd ymhlith pobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru yn is nag yng nghenhedloedd eraill y DU.
“Felly rydym yn cytuno ag Estyn, yr arolygwr addysg, y dylai cyfleoedd i ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd gael eu prif-ffrydio ar draws yr holl Gyfnodau Allweddol yn ysgolion Cymru. Hefyd dylai modelau arferion gorau gael eu rhannu a’u safoni ar draws Cymru er mwyn hyrwyddo datblygiad yn y meysydd hyn.”
Nodiadau i’r Golygyddion
Dylai unrhyw gynrychiolwyr o’r cyfryngau sy’n dymuno trefnu cyfweliad gyda Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor, gysylltu ag adran cyswllt â’r cyfryngau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 029 2089 8215.
Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
Linc i ragor o wybodaeth am Adroddiad Blynyddol Estyn.