Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 1.29 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:29
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Polisïau Ynni Adnewyddadwy
 
13:29
Suzy DaviesBywgraffiad
1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu polisïau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0009(NRF)
 
13:29
Alun DaviesBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Nodir polisi ynni Llywodraeth Cymru yn ‘Ynni Cymru’. Ein nod yw cael economi carbon isel sy’n sicrhau swyddi a ffyniant hirdymor ar sail gweithio mewn partneriaeth â chymunedau a busnesau.
 
13:30
Suzy DaviesBywgraffiad
Byddwch yn ymwybodol o’r dyfarniad diweddar bod pob un o 27 o aelod-wladwriaethau Ewrop yn methu â chydymffurfio â chonfensiwn Aarhus. Felly, pa drafodaethau rydych wedi’u cael â Llywodraeth y DU, fel yr aelod-wladwriaeth, er mwyn sicrhau bod y polisi ynni yng Nghymru yn cydymffurfio â’r confensiwn, yn enwedig o ran y modd y mae’r cyhoedd yn ymwneud â llunio polisi ynni Llywodraeth Cymru?
 
13:30
Alun DaviesBywgraffiad
Byddwch yn gyfarwydd â’r gwaith a wnaed ar gyflawni ar ‘Ynni Cymru’, yn ogystal â’r gwaith a wnaed, a’r ffocws a roddwyd, ar gynnwys y gymuned a budd cymunedol mewn nifer o brosiectau gwahanol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â hwy. Byddwch hefyd yn ymwybodol ein bod yn cael trafodaethau rheolaidd ar bolisi ynni, o ran dull gweithredu Llywodraeth y DU.
 
13:30
Vaughan GethingBywgraffiad
Weinidog, byddwch yn ymwybodol, o’n hymchwiliad hirfaith yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, o’n diddordeb mewn materion ynni adnewyddadwy. A wnewch ddatganiad pellach ar un o’r meysydd a allai gynnig y budd gorau i Gymru, sef yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ynni morol a llanw oddi ar arfordir Cymru.
 
13:31
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol i’r Prif Weinidog ddatgan yr wythnos diwethaf fod £1.6 miliwn ychwanegol o arian Ewropeaidd yn cael ei neilltuo i hyrwyddo’r prosiect DeltaStream oddi ar Sir Benfro. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan hefyd yn ddiweddar ei bod wedi rhoi caniatâd ar gyfer rhesiad llanw cyn-fasnachol 10 MW oddi ar Ynys Môn. Rydym yn awyddus—a bydd yr Aelodau’n ymwybodol o hyn o ddarllen ‘Ynni Cymru’—i hybu ynni’r llanw a thonnau ar bob cyfle.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
 
13:31
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Mae llawer o’r gwrthwynebiad i ffermydd gwynt yn deillio o’r ffaith nad oes unrhyw fudd cymunedol yn dod i’r ardaloedd hynny o’u codi. A wnewch chi ddiwygio eich polisi ynni, i sicrhau bod budd economaidd, a budd cymdeithasol, yn rhan o bob caniatâd cynllunio?
 
13:32
Alun DaviesBywgraffiad
Rydym wedi bod yn dweud hynny ac yn gwneud hynny. Byddwch yn gwybod o araith y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ei fod wedi canolbwyntio ar hynny ac wedi pwysleisio pwysigrwydd y ffaith bod y gymuned yn rhan o benderfyniadau, a bod y gymuned yn elwa o benderfyniadau.
 
13:32
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Pam na wnewch hynny drwy ddeddfwriaeth, felly?
 
13:32
Alun DaviesBywgraffiad
Gwyddoch hefyd fod llawer o’r materion hyn heb eu datganoli i ni yng Nghymru. Rydych chi a ni wedi bod yn ymgyrchu am y math hwnnw o ddatganoli—rydym yn cytuno ar hynny. Unwaith y bydd hynny’n digwydd, gobeithiaf y gallwn wneud mwy i sicrhau bod hynny’n digwydd.
 
13:32
Peter BlackBywgraffiad
Yn dilyn y cwestiwn gan yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, pa ryngweithio a gawsoch gyda’r cwmni a oedd yn cynnig adeiladu morlyn llanw ym mae Abertawe, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog y datblygiad hwnnw?
 
13:33
Alun DaviesBywgraffiad
Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyfleoedd, ond hefyd yr heriau, sy’n gysylltiedig â harneisio ynni amrediad llanw, fel y ceir ym mae Abertawe. Mae’r gwaith yno eisoes wedi dechrau o ran cael trwyddedau i gynnal ymchwiliad tir, a bydd datganiad amgylcheddol a fydd yn destun ymgynghoriad llawn.
 
13:33
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar lefarydd yr wrthblaid, Antoinette Sandbach.
 
13:33
Antoinette SandbachBywgraffiad
Weinidog, mae cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yn ddelfrydol mewn sawl ffordd ar gyfer y cymysgedd ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru o blaid cyfres o safonau tynnu dŵr ar lif-hollti a fydd yn lladd y diwydiant hwn cyn iddo gael ei draed o dano. Gan mai eleni fydd y cyfle olaf, yn ôl y diwydiant, ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghymru, oherwydd y dyddiad cau sydd ar droed ym mis Rhagfyr ar gyfer y tariff cyflenwi trydan, pa ddull gweithredu a ddefnyddiwch i annog y gwaith o gadw a datblygu cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghymru?
 
13:34
Alun DaviesBywgraffiad
Y canllawiau y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt yw’r rhai a etifeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y cyrff rhagflaenol. Cefais gyfarfod â rheolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru’r bore yma, a phwysleisiais iddynt bwysigrwydd cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach, y cyfeiria’r Aelod atynt. Cefais gyfarfod hefyd â chynrychiolwyr y diwydiant ynni dŵr fis diwethaf, a’u sicrhau fy mod yn bersonol yn cefnogi dull sy’n golygu ein bod yn adolygu ac yn chwilio am broblemau, ond ein bod yn eu datrys, nid dim ond eu hailgylchu.
 
13:34
Antoinette SandbachBywgraffiad
Mae’n galonogol iawn clywed hynny, Weinidog. Un o’r problemau eraill sy’n wynebu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yw cost uchel cysylltiadau grid, sy’n gŵyn fynych yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r bobl y bûm yn siarad â hwy yn dangos dyfynbrisiau imi, sydd weithiau cymaint â miloedd o bunnoedd. O ystyried y ffordd y mae’r taliadau hyn yn atal pobl rhag cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a allwch gadarnhau pa gyfarfodydd a gawsoch gyda chwmnïau ynni i ostwng costau cysylltiadau grid, er mwyn caniatáu i’r prosiectau hyn ar raddfa fach ffynnu?
 
13:35
Alun DaviesBywgraffiad
Ers imi ymgymryd â’r rôl newydd hon, nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda chwmnïau ynni i drafod yr agwedd benodol honno ar hyrwyddo ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Rwy’n ymwybodol o nifer o brosiectau sy’n wynebu’r anawsterau y cyfeiriwch atynt—ysgrifennodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd ataf rai dyddiau yn ôl am gynllun yn ei etholaeth a oedd wedi wynebu’r union broblemau hynny. Atebais drwy ddweud y byddem yn mabwysiadu dull rhagweithiol tuag at ddatrys y materion hyn, ac mae’r rhain yn faterion y byddaf yn ceisio eu datrys dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
 
Nwyeiddio Glo
 
13:35
Byron DaviesBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o nwyeiddio glo yng Nghymru? OAQ(4)0005(NRF)
 
13:35
Alun DaviesBywgraffiad
Gall nwyeiddio glo tanddaearol gynnig manteision o ran diogelwch ynni a defnydd glanach o danwydd ffosil, ond erys heb ei brofi i raddau helaeth ar sail fasnachol hirdymor. Bydd angen i unrhyw archwiliad arfaethedig gydymffurfio â chyfundrefn cynllunio a rheoleiddio amgylcheddol Cymru.
 
13:36
Byron DaviesBywgraffiad
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedwch, nid oes llawer o wybodaeth am y broses o nwyeiddio glo tanddaearol yn y DU, yn enwedig mor agos at ardaloedd preswyl, ac nid oes unrhyw fframwaith rheoleiddio. Mae gennyf bryderon nawr bod Cyfoeth Naturiol Cluff wedi cael trwydded nwyeiddio glo tanddaearol ar gyfer aber afon Llwchwr. A allwch edrych ar y drwydded hon a’r cynllun hwn i sicrhau bod amgylchedd a phobl Gŵyr a’r cyffiniau yn parhau i fod yn ddiogel?
 
13:36
Alun DaviesBywgraffiad
Dyfarnwyd y drwydded hon i archwilio prosiectau ar aberoedd afon Llwchwr ac afon Dyfrdwy. Ar ôl cael y drwydded amodol, bydd Cyfoeth Naturiol Gymru ond yn cynnig trwydded lawn os yw wedi’i fodloni’n llwyr fod yr amgylchedd a chymunedau lleol yn cael eu gwarchod yn llawn.
 
13:36
David ReesBywgraffiad
Mae nwyeiddio glo yn un o nifer o ddulliau nwy anghonfensiynol o gynhyrchu ynni, gyda ffracio yn un arall. A yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd safiad ynghylch ffracio? A fydd yn dilyn gwledydd a rhanbarthau eraill yr UE sydd wedi gosod moratoriwm ar ffracio hyd nes y bydd gwaith ymchwil pellach wedi ei wneud ar effaith lawn ffracio, yn enwedig mewn ardaloedd daearegol fel y de?
 
13:37
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r gwaith a wneir eisoes ar y mater hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae ein safiad, o safbwynt amgylcheddol ac o safbwynt diogelwch, eisoes yn un rhagofalus, felly nid wyf yn ystyried bod angen gosod moratoriwm ar y mater hwn yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, bod angen gwerthuso potensial nwy anghonfensiynol fel ffynhonnell ynni ac mae angen rhoi ystyriaeth lawn i’r holl dystiolaeth sydd ar gael—economaidd ac amgylcheddol—cyn y gellir ystyried naill ai archwilio’r adnodd neu ei echdynnu o bosibl.
 
13:37
Bethan JenkinsBywgraffiad
Mae fy nghwestiwn hefyd yn ymwneud â’r gwaith a wneir gan Cluff i chwilio am lo yn fy rhanbarth. Pan holwyd Dr Shaun Lavis o Clean Coal Ltd, sydd â thrwydded ym mae Abertawe, gan fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ym mis Mawrth, dywedodd y byddai rheoliadau presennol sy’n rheoli nwyeiddio glo tanddaearol yn caniatáu i weithredwyr ollwng carbon deuocsid tra’n cynhyrchu diesel o nwy synthetig. A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r rheoliadau hyn a pha ddarpariaeth sydd ar gyfer diogelu ardaloedd cadwraeth arbennig?
 
13:38
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd yr holl reoliadau yn gwarchod pob ardal cadwraeth arbennig.
 
Lles Anifeiliaid Domestig
 
13:38
Darren MillarBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid domestig? OAQ(4)0003(NRF)
 
13:38
Alun DaviesBywgraffiad
Rydym yn gwbl ymrwymedig i godi safonau lles anifeiliaid. Mae rhaglenni lles ar fridio cŵn, gosod microsglodyn a rheoli, pori anghyfreithlon, lles anifeiliaid adeg eu lladd a lles moch yn parhau. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod am ennill Gwobr Seneddol Cŵn y Kennel Club yn 2012.
 
13:38
Darren MillarBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn ichi am fy atgoffa o hynny, Weinidog. Byddwch yn gwybod bod elusennau lles anifeiliaid yn brysurach nag erioed ar hyn o bryd ac, yn ddiau, byddwch hefyd yn ymwybodol o’ch deunydd briffio bod canolfan anifeiliaid RSPCA Bryn-y-Maen ym Mae Colwyn Uchaf yn gwneud llawer iawn o waith caled i hyrwyddo lles anifeiliaid. A ymunwch â mi i dalu teyrnged iddi am ei gwaith caled? Pa gymorth rydych yn ei roi i elusennau anifeiliaid fel yr RSPCA ac eraill sy’n gweithio i warchod ac ail-gartrefu anifeiliaid pan fydd problemau lles yn codi?
 
13:39
Alun DaviesBywgraffiad
Rydym i gyd yn amlwg yn ymwybodol bod yr RSPCA yn gwneud gwaith gwych wrth warchod lles anifeiliaid ledled Cymru gyfan. Talaf deyrnged i’r bobl y cyfeiria’r Aelod atynt yn ei etholaeth ei hun, fel y gwnaf innau i bobl sy’n gwneud yr un gwaith mewn llefydd eraill. Bu cynnydd yn nifer yr adroddiadau o greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n destun gofid i bob un ohonom, ar bob ochr i’r Siambr. Yn y gwaith a wnawn ar hyn o bryd gyda’r RSPCA, rydym yn ceisio eglurhad ynghylch a oes unrhyw batrwm o greulondeb neu a yw’r cyfraddau creulondeb yn cynyddu’n gyffredinol, neu yn syml bod nifer yr achosion o greulondeb a gaiff eu cofnodi yn cynyddu. Mae’r gwaith hwnnw yn parhau a byddwn yn hapus i adrodd i’r Aelod neu’r Aelodau ar gasgliadau’r gwaith hwnnw pan fydd ar gael.
 
13:40
Julie MorganBywgraffiad
Rwy’n falch bod y Gweinidog yn bwrw ymlaen â’r broses o orfodi pobl i osod microsglodion ar eu cŵn, ond rwy’n siomedig iawn ei fod wedi atal Bil rheoli cŵn (Cymru). Fel y gŵyr, mae ganddo lawer iawn o gefnogaeth gan yr holl elusennau lles anifeiliaid. Pryd y mae’n meddwl y bydd yn fodlon y bydd Bil ymddygiad gwrthgymdeithasol San Steffan yn ymgorffori holl elfennau’r Bil arfaethedig yng Nghymru sy’n ymwneud â chŵn?
 
13:40
Alun DaviesBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei geiriau caredig ynghylch gosod microsglodion. Deallaf ei siom ynghylch y ddeddfwriaeth rheoli cŵn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod Araith y Frenhines y bore yma yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno deddfwriaeth ar y pecyn cymorth ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddaf yn parhau â’r trafodaethau a ddechreuwyd gan fy swyddogion yn y Swyddfa Gartref a byddaf yn sicrhau bod Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y trafodaethau hynny ac am hynt y gwaith.
 
13:41
Christine ChapmanBywgraffiad
Weinidog, synnais o glywed bod nifer yr erlyniadau gan yr RSPCA am greulondeb anifeiliaid mewn rhai rhannau o gymoedd y de, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, wedi codi 230% y llynedd. Fel y soniwyd gennych yn gynharach, gall hyn adlewyrchu mwy o ymwybyddiaeth o gamdriniaeth. Efallai y bydd hefyd yn dangos bod pobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn wyneb y dirwasgiad. Sut y gallwn fynd i’r afael â’r creulondeb hwn a helpu perchnogion anifeiliaid anwes tra’n sicrhau hefyd bod pob perchennog anifeiliaid anwes yn gwybod beth yw’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â gofalu am ei anifeiliaid?
 
13:41
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n ymwybodol o’r materion a godir gan yr Aelod. Yn fy etholaeth i, sef Blaenau Gwent, gwelsom gynnydd o 168% yn nifer y collfarnau ar gyfer esgeulustod a chreulondeb at anifeiliaid, felly rwy’n ymwybodol iawn o’r materion hynny. Bydd y gwaith a wnawn ar hyn o bryd i adolygu’r hyn sydd wrth wraidd y ffigurau hyn yn llywio ein hymateb i’r wybodaeth hon. Mae’r rhan fwyaf o berchenogion anifeiliaid yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau, ond mae angen inni sicrhau bod pob perchennog anifeiliaid yn ymwybodol o’i ddyletswydd gofal. Mae hynny’n cynnwys hyfforddiant a chymdeithasoli anifail fel y bo’n briodol. Byddwn yn parhau i siarad â’r RSPCA am y materion hyn. Gobeithio, yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd nesaf, y byddwn yn gallu cael dealltwriaeth gwell o lawer o’r hyn sydd wrth wraidd y ffigurau hyn. Pan gawn y ddealltwriaeth honno, byddwn yn cyflwyno mesurau newydd lle y bo’r angen.
 
Polisi Tir Comin
 
13:42
Kirsty WilliamsBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Tir Comin Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0015(NRF)
 
13:43
Alun DaviesBywgraffiad
Mae nifer o elfennau i’r polisi tir comin yng Nghymru. Un o’r elfennau allweddol yw rhoi Deddf Tiroedd Comin 2006 ar waith, cyflawni argymhellion adroddiad yr ucheldir, a’r elfen Glastir – Tir Comin. Caiff tua 50% o dir comin ei gwmpasu gan Glastir bellach—mwy nag unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol blaenorol.
 
13:43
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolchaf i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ond pa gamau y mae’n eu cymryd i warchod bioamrywiaeth tiroedd comin Cymru a hawliau cominwyr pan gaiff cynlluniau eu cyflwyno ar gyfer datblygiad diwydiannol neu economaidd ar diroedd comin yng Nghymru?
 
13:43
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’n gohebiaeth flaenorol ar y mater hwn ein bod yn cymryd pob cais am newid defnydd ar dir comin o ddifrif. Pan wneir penderfyniadau, rydym yn sicrhau bod uniondeb y tir comin, lle bynnag y bo modd, yn cael ei gynnal a lle y caiff tir comin ei golli, rydym yn ceisio sicrhau y gwneir iawn am hynny drwy ddefnyddio tir o rywle arall. O ran parhau i gynnal amrywiaeth a bywiogrwydd tir comin, rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd prosiect Glastir yn sicrhau bod gennym reolaeth gynaliadwy ar lawer mwy o elfennau o dir comin nag erioed o’r blaen. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd hynny’n cyflawni llawer o’r uchelgeisiau y mae’r Aelod a minnau’n eu rhannu.
 
13:44
Kenneth SkatesBywgraffiad
Weinidog, bydd diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn effeithio ar gymaint â 13,000 o weithwyr ar gyflogau isel. Bydd goblygiadau difrifol i ddatblygiad amaethyddol a gwledig ledled Cymru yn sgil y penderfyniad hwn. Croesawaf yr ymgynghoriad rydych wedi ymgymryd ag ef i geisio amddiffyn y diwydiant yr ochr hon i’r ffin. A wnewch chi annog gweithwyr fferm, cymunedau gwledig ac eraill y mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt i rannu eu safbwyntiau yn yr ymgynghoriad er mwyn inni ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i Gymru?
 
13:44
Alun DaviesBywgraffiad
Byddwn yn sicr yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Mae a wnelo’r ymgynghoriad ag atgyfnerthu’r diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru a sefydlu’r proffesiynoldeb angenrheidiol o fewn y diwydiant yng Nghymru a fydd yn arwain at fwy o effeithlonrwydd a mwy o broffidioldeb ar gyfer yr holl ddiwydiant hwnnw. Fy ymrwymiad yw sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru mor effeithlon a phroffidiol â phosibl.
 
13:45
Byron DaviesBywgraffiad
Weinidog, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cais cynllunio ar gyfer fferm wynt enfawr ar gyfer Mynydd y Gwair ar y tir comin sy’n edrych dros Abertawe a Gŵyr. Mae’r tir comin hwn yn adnodd naturiol ar gyfer Abertawe, ar gyfer bywoliaeth ffermwyr a’r diwydiant twristiaeth. Beth a wnewch i sicrhau nad yw’r defnydd hwn o dir comin yn dioddef o ganlyniad i’r defnydd posibl hwn?
 
13:45
Alun DaviesBywgraffiad
Byddwch hefyd yn ymwybodol, Byron, na wnaf sylwadau ar unrhyw geisiadau cynllunio sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.
 
13:45
Llyr Huws GruffyddBywgraffiad
Fe sonioch chi mewn ateb blaenorol, Weinidog, ynglŷn â Glastir, ac mae fforwm tir comin Cymru yn ddiweddar wedi mynegi gofid ynglŷn â’r potensial y gall Glastir arwain, yn y pen draw, at ddad-stocio a than-bori tiroedd comin ac ucheldiroedd Cymru. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru, er tegwch iddi, wedi ei gwneud hi’n gwbl glir na fydd hynny’n digwydd. Y pwynt rwyf am ei wneud yw: onid yw hynny’n dangos bod gennych chi a’ch adran gryn dipyn o waith i’w wneud i gyfathrebu manteision y rhaglen hon i fudd-ddeiliaid allweddol yng Nghymru?
 
13:46
Alun DaviesBywgraffiad
Rwyf innau hefyd wedi darllen ‘The Daily Post’ a gweld yr un erthygl â chithau. Mae’r fforwm wedi cael llawer o bethau’n anghywir yn ddiweddar, ac mae perygl y bydd yn cam-arwain pobl. Mae mwy o dir comin yng Nghymru yn awr yn rhan o Glastir nac sydd erioed wedi bod yn rhan o unrhyw gynllun tebyg o’r blaen. Felly, rwyf yn mawr hyderu bod y rhan fwyaf o bobl yn deall beth yw Glastir ac nid yn unig ei oblygiadau ond ei fanteision ar gyfer tir comin.
 
Wedi dweud hynny, nid wyf yn anghytuno â chi. Rwy’n credu bod gennym lawer o waith i’w wneud i gyfathrebu manteision Glastir i dir comin ac i ffermwyr. Felly, rwy’n cydnabod dy bwynt di. Fel rydych yn gwybod fel aelod o’r pwyllgor, mae hyn yn waith rydym wedi dechrau ei wneud.
 
Ffrwythau a Llysiau
 
13:47
Jenny RathboneBywgraffiad
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyflenwadau cynaliadwy o ffrwythau a llysiau mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd? OAQ(4)0017(NRF)
 
13:47
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r Llywodraeth hon yn hyrwyddo cyflenwadau ffrwythau a llysiau cynaliadwy ledled Cymru, gan gynnwys drwy’r rhaglen cydweithfa fwyd gymunedol, sy’n gwella argaeledd ffrwythau a llysiau ffres, fforddiadwy o safon, a’r defnydd a wneir ohonynt, drwy sefydlu cydweithfeydd bwyd. Mae yna 340 o gydweithfeydd yng Nghymru a 25 yng Nghaerdydd. Mae nifer gynyddol o ysgolion yn trefnu i ddisgyblion dyfu ffrwythau a llysiau ar y safle.
 
13:48
Jenny RathboneBywgraffiad
Mae hynny’n newyddion gwych. Yn wir, cefais ymweliad gan Ysgol Gynradd Lakeside ddoe, ac mae’r disgyblion yno yn tyfu eu bwyd eu hunain. Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud. Gan mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle mae pob awdurdod lleol yn ailgylchu gwastraff bwyd, tybed beth arall y gellir ei wneud i wneud arian allan o’r baw hwn drwy dechnoleg treulio anaerobig, naill ai i’w fwydo yn ôl i mewn i’r system dyfu fel y gallwn dyfu mwy o ffrwythau a llysiau, gan fod llawer ohono yn dal i ddod o farchnad gyfanwerthu Birmingham, neu, yn wir, i’w werthu’n fasnachol.
 
13:48
Alun DaviesBywgraffiad
Cytunaf â’r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae ein rhaglen Tyfu Pobl yn cynhyrchu tua £1 miliwn o fusnes y flwyddyn i 80 o gynhyrchwyr o Gymru. Mae hynny’n cyfrannu at yr economi yn gyffredinol. Fodd bynnag, cytunaf â’r Aelod y gellir gwneud mwy. Rwy’n hapus i barhau i weithio gyda’r prosiectau gwahanol hyn i sicrhau’r budd cymdeithasol a ddaw o greu gwell dealltwriaeth o’r gadwyn fwyd, a hefyd i wella argaeledd a hygyrchedd ffynonellau lleol o fwyd a diod yng Nghymru.
 
13:49
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Weinidog, efallai y byddwch wedi fy nghlywed yn sôn bod gennyf randir. Mae gennyf randir yn Nhonypandy, felly rwy’n ymwybodol iawn o fanteision tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun. Mae fy nheulu yn ffodus iawn o gael rhandir, oherwydd mae rhestrau aros, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, a gall y rhestrau aros hir hynny fod yn ddiflas. Gwn fod gan Gaerdydd restrau aros o hyd at bum mlynedd mewn rhai safleoedd. Yn ddiweddar gwnaethoch gyhoeddi ymgynghoriad ar gynllun drafft i ddenu peillwyr ac wrth gwrs, byddai mwy o randiroedd yn helpu gyda hynny. Pa gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i ehangu’r tir a’r mannau gwyrdd a ddarperir ar gyfer rhandiroedd i leddfu’r baich ar y rhestr aros am randiroedd?
 
13:50
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n gyfarwydd â’ch rhandir, Leanne. Nid wyf erioed wedi ymweld ag ef, ond rydych wedi ei ddisgrifio’n fanwl iawn sawl gwaith, ac rwy’n meddwl ein bod i gyd yn edrych ymlaen at ymweliad ar ryw adeg neu’i gilydd. [Torri ar draws.] Gall pob un ohonom fwynhau prynhawn yno. [Torri ar draws.] Byddaf yn ateb y cwestiwn. O ran ble rydym yn mynd yn awr, rydych yn ymwybodol, beth amser yn ôl, i’r grŵp gorchwyl a gorffen tyfu bwyd yn y gymuned wneud nifer o argymhellion ynghylch sut y gallwn wella faint o dir sydd ar gael ar gyfer rhandiroedd a mentrau eraill ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned, a hygyrchedd y tir hwnnw. Dyna’r argymhellion a ddilynwn ar hyn o bryd, ond byddwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau y mae’r Aelod yn dymuno eu gwneud.
 
Gŵyl Fwyd y Fenni
 
13:51
Nick RamsayBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Wyl Fwyd y Fenni? OAQ(4)0006(NRF)
 
13:51
Alun DaviesBywgraffiad
Gwn fod yr Aelod dros Fynwy yn ymwelydd rheolaidd â Gŵyl Fwyd y Fenni, fel yr wyf innau. Mae gwyliau bwyd yn rhan bwysig o’n diwylliant bwyd. Fy marn i yw y dylai unrhyw ŵyl fwyd gynllunio i fod yn gwbl gynaliadwy a hunangynhaliol, yn enwedig yn y tymor hwy. Mae Gŵyl Fwyd y Fenni wedi cael £238,995 o gymorth gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
 
13:51
Nick RamsayBywgraffiad
Tra bod arweinydd Plaid Cymru yn mwynhau tyfu llysiau, gwn fod y Gweinidog, fel minnau, yn mwynhau eu bwyta. Fel y dywedasoch, rwyf wedi dod ar eich traws unwaith neu ddwy yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, Weinidog, a gwerthfawrogir eich cefnogaeth. Nodaf fod Gŵyl Fwyd y Fenni yn un o’r 32 o ddigwyddiadau bwyd a chynnyrch i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru eleni—rydych newydd sôn am hynny—ond pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd y cymorth hwnnw’n parhau a sut ydych y bwriadu cyflwyno’r model gŵyl fwyd ledled Cymru, yn eich rôl newydd? Efallai na fydd yn addas i bob tref, ond gallai trefi eraill elwa ar fodel o’r fath.
 
13:52
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r Aelod yn iawn, ac rwy’n cefnogi menter leol yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, a gaiff ei lansio ym mis Gorffennaf. O ran cymorth ar gyfer gwyliau bwyd, fy marn i yw y dylent fod yn fentrau sy’n deillio o gymunedau lleol sydd eisiau cynnal a datblygu’r ŵyl. Bu’n bleser gennyf gefnogi’r Fenni dros nifer o flynyddoedd, yn bersonol ac yn fy rôl fel Gweinidog. Mynychais yr ŵyl y llynedd a siaradais mewn seminar yn yr ŵyl. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar sut rydym yn parhau i ehangu a chefnogi datblygiad y diwylliant bwyd ledled Cymru.
 
13:52
Lindsay WhittleBywgraffiad
Deallaf fod y Llywodraeth yn cynnig cefnogaeth dda iawn, a bod yn deg, i sawl gŵyl fwyd ledled Cymru. Gyda llaw, nid yw eich gwefan yn sôn am eich cefnogaeth i Ŵyl Fwyd Caerffili, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn diwethaf. Rydym yn llongyfarch y Fenni am ddenu 40,000 o ymwelwyr. Mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn sicr yn dymuno ei efelychu. Pa feini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa wyliau ddylai gael cymorth, ac a yw’r cymorth hwnnw’n cael ei rannu’n deg ledled Cymru? A all y Llywodraeth wneud mwy a chynnig mwy o gymorth i wyliau sy’n amlwg yn hyrwyddo ac yn defnyddio cynnyrch lleol o Gymru a chwmnïau Cymreig lleol-ac efallai rhai llysiau o randir Leanne Wood?
 
13:53
Alun DaviesBywgraffiad
Nid wyf yn siŵr a allem wneud y pwynt olaf yn faen prawf ar gyfer ariannu gwyliau bwyd. Fodd bynnag, rhan o’r meini prawf ar gyfer derbyn grant gŵyl fwyd yw’r gofyniad bod o leiaf 75% o’r cynhyrchwyr bwyd a diod yn dod o Gymru. Er y gallai fod croeso i hynny yng Nghaerffili, gwn ei fod wedi achosi anawsterau i wyliau bwyd mewn mannau eraill, gan gynnwys—neu efallai yn arbennig—y rhai sy’n agosach at y ffin â Lloegr.
 
Mae’r meini prawf ar gael gan Lywodraeth Cymru. Os yw’r Aelod yn cael trafferth cael gafael ar y wybodaeth honno, gallaf sicrhau ei bod ar gael i bob Aelod. Mae hyn yn rhan o’n cymorth ehangach ar gyfer gwerth bwyd a chynnyrch Cymreig ledled Cymru a’r gwerthfawrogiad ohono.
 
Marchnata Cynnyrch Bwyd Cymru
 
13:54
Alun Ffred JonesBywgraffiad
7. Beth yw cynlluniau’r Gweinidog i farchnata cynnyrch bwyd Cymru? OAQ(4)0010(NRF)
 
13:54
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi cynhyrchion bwyd a diod o Gymru drwy gefnogi nifer o fentrau. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys mynychu arddangosfeydd mawr ar gyfer masnachwyr bwyd a diod yn rhyngwladol ac o fewn y Deyrnas Unedig. Mae gennym hefyd raglen o fesurau, yn cynnwys datblygu cynhyrchion newydd, arloesi, rhaglenni ar gyfer mentora busnesau a datblygu marchnadoedd.
 
13:54
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Mae Cymru y Gwir Flas wedi bod yn ymgyrch ac yn frand llwyddiannus iawn, ac mae adroddiadau diweddar sydd wedi eu cyflwyno i chi yn profi hynny. Fodd bynnag, mewn gŵyl fwyd diweddar, nid oedd golwg o’r logo na’r brand, dim ond arwydd uniaith Saesneg yn dweud ‘Food and Drink Wales’. Pryd a pham y penderfynoch chi gael gwared ar Cymru y Gwir Flas?
 
13:54
Alun DaviesBywgraffiad
Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud i gael gwared ar ‘Wales the True Taste’. Ar hyn o bryd, rwyf yn ystyried sut yr ydym yn symud yr holl gynllun bwyd ymlaen. Rwyf wedi bod yn ei adolygu’n fewnol yn ystod y misoedd diwethaf ac nid wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniad o’r fath.
 
13:55
Antoinette SandbachBywgraffiad
Weinidog, o ystyried yr amrywiaeth o fwyd a diod o ansawdd uchel gan gynhyrchwyr lleol ledled Cymru, mae’n amlwg bod potensial aruthrol i’r sector hwn roi hwb i’r diwydiant twristiaeth a helpu i wyrdroi’r dirywiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer yr ymwelwyr tramor â Chymru a chynyddu faint o arian a wariwyd yn yr economi twristiaeth. A allwch gadarnhau, o’ch trafodaethau â’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, y bydd twristiaeth bwyd yn rhan annatod o strategaeth dwristiaeth arfaethedig eich Llywodraeth? Pa gynlluniau sydd gennych i ehangu nifer y llwybrau bwyd fel bod pob ardal yng Nghymru yn cael y cyfle gorau i fanteisio ar y farchnad gynyddol ar gyfer twristiaeth bwyd?
 
13:55
Alun DaviesBywgraffiad
Gallaf roi’r sicrwydd y mae’r Aelod am ei gael. Mae twristiaeth bwyd yn rhan o’n strategaeth barhaus. Rwy’n siŵr bod yr Aelod yn cyfeirio at y llwybr bwyd yr helpais i’w lansio yn Nyffryn Clwyd y llynedd. Mae’n un y dychwelais ato ychydig wythnosau yn ôl ac rwy’n falch iawn o’i lwyddiant yn dwyn ynghyd gynhyrchwyr, manwerthwyr a phroseswyr. Mewn sawl ffordd, rwy’n meddwl ei fod yn fodel ar gyfer y math o waith y gellir ei wneud ac a gefnogir gan y cynllun datblygu gwledig yn y dyfodol.
 
13:56
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwyf wrth fy modd eich clywed yn dweud hynny oherwydd, fel y gwyddoch, mae fy rhanbarth i yn gartref nid yn unig i batshyn bresych Leanne Wood, ond hefyd i nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod cain, megis seidr Gwynt y Ddraig, chwisgi Penderyn , Gwinllan Llanerch, bragdy Otley a llawer o gynhyrchwyr eraill o ansawdd uchel iawn. Pa drafodaethau a gawsoch ynghylch creu llwybr bwyd a diod i roi hwb i dwristiaeth yn y de?
 
13:56
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n gyfarwydd â llawer o’r brandiau a restrodd yn ei chwestiwn. Un o’r meysydd yr hoffwn inni ehangu ein gwaith ynddo efallai yw cefnogi rhai o’r gwinllannoedd gwych sydd gennym yng Nghymru.
 
Polisi a Strategaeth Bwyd
 
13:57
Mark IsherwoodBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu Polisi a Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0007(NRF)
 
13:57
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n datblygu strategaeth i sicrhau y bydd y sector bwyd a diod yn gynaliadwy ac yn broffidiol yn y dyfodol. Byddaf yn cyhoeddi cynllun ar gyfer bwyd yn fuan a fydd yn nodi ymyriadau gan y Llywodraeth. Fy mwriad yw y bydd hyn yn llywio trafodaeth eang gyda’r diwydiant i sicrhau’r ffordd orau ymlaen.
 
13:57
Mark IsherwoodBywgraffiad
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gwnaethoch ysgrifennu ataf yr wythnos hon ynglŷn â Gŵyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug. Gwnaethoch nodi bod y trothwy o 75% o gynhyrchwyr o Gymru mewn gwyliau bwyd yn berthnasol i wyliau bwyd ar draws Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod diwylliant bwyd cryf ac unigryw Gymreig yn cael ei hyrwyddo. Yn amlwg, byddem i gyd yn cefnogi eich dyhead. Fodd bynnag, nododd adroddiad, ‘The Dee Region Cross-Border Economy’, gan Dr Elizabeth Haywood ar gyfer Llywodraeth Cymru y byddai gwneud rhinwedd o natur draws-ffiniol rhanbarth y gogledd-ddwyrain a gwrthod y tueddiad presennol i ganolbwyntio marchnata ar un ochr o’r ffin neu’r llall yn fuddiol. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn eich adolygiad o’r strategaeth hon yn yr ardaloedd ar y ffin i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan Ŵyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug mai dim ond ar draul cynaliadwyedd yr ŵyl honno a chefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol ar sail hirdymor y gellid cyflawni’r rheol 75%?
 
13:58
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n gyfarwydd â’r mater a godwyd ganyr Aelod; cyfeiriais ato mewn ateb blaenorol. O ran gŵyl fwyd yr Wyddgrug, rwyf wedi bod yn gohebu’n helaeth a pharhaus â’r Aelod dros Ddelyn sydd wedi codi’r mater hwn gyda mi ar nifer o achlysuron gwahanol. Rwy’n cydnabod yr anawsterau y mae hyn yn eu creu i’r cynhyrchwyr a’r trefnwyr gwyliau hynny sy’n agos at y ffin â Lloegr. Efallai y gallwn gydweithio â’n cyd-Aelodau yn Lloegr i ddatblygu brand neu ffordd o fynegi ein cymorth iddynt mewn ardaloedd ar y ffin. Rwy’n agored i’r mathau hynny o drafodaethau. Mae’r trafodaethau hynny eisoes wedi dechrau gyda’r Aelod dros Ddelyn ac rwy’n fwy na hapus i barhau â’r trafodaethau hynny.
 
13:59
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
A fyddai’r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn bod unrhyw strategaeth fwyd yn cael ei harwain gan y busnesau bwyd cryfion sydd wedi tyfu yng Nghymru, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Rwy’n meddwl yn arbennig am y cwmnïau dosbarthu fel Gwasanaeth Bwyd Harlech yn f’etholaeth a Chastell Howell Foods sy’n ein cyflenwi ni yma yn ddyddiol. Felly, mae’n bwysig bod y Llywodraeth, wrth gefnogi hyrwyddo bwyd o Gymru, yn cydweithio â’r busnesau sydd hefyd yn gynyddol yn gwerthu bwyd o Gymru. Tra fy mod yn enwi cwmnïau, dylwn hefyd fod wedi sôn, wrth gwrs, am Deiniol ap Dafydd a Blas ar Fwyd yn nyffryn Conwy.
 
14:00
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r Aelod wedi gwneud y pwynt olaf yn well nag y gallwn i wedi ei wneud. Rwy’n awyddus iawn i ddatblygu’r gadwyn fwyd yng Nghymru. Mae’r pwyslais wedi bod ar gynhyrchwyr cynradd—y ffermwyr—gan amlaf, ac ambell broseswr bwyd. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn datblygu’r gadwyn, sy’n creu gwerth ac elw ar bob pwynt i gymunedau yng Nghymru. Dyna’r ffordd rwyf wedi ystyried y diwydiant llaeth, ac rwy’n gweld hynny fel model i ddatblygu a chynnal gwerth ac elw ar gyfer proseswyr a chynhyrchwyr bwyd ym mhob rhan o Gymru.
 
Cynlluniau Ynni Dŵr ar Raddfa Fach
 
14:01
William PowellBywgraffiad
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0012(NRF)
 
14:01
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach yn y canolbarth a’r gorllewin yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at ddiwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol. Mae cymorth sylweddol eisoes ar gael i gynlluniau dŵr ar raddfa gymunedol drwy raglen Ynni’r Fro Llywodraeth Cymru, a ariennir gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, sy’n rhoi cyngor, cymorth, grantiau a benthyciadau i gynlluniau dŵr a arweinir gan y gymuned.
 
14:01
William PowellBywgraffiad
Diolch yn fawr i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Bydd y rheini ohonom a oedd yn bresennol y bore yma yn y cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol ar faterion gwledig wedi cael ein hannog i’ch clywed yn cyfeirio at bwysigrwydd polisi fel galluogwr, yn hytrach na rhwystr, i symud ymlaen. Yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod canllawiau’r Alban ar hyn o bryd ar gynlluniau dŵr yn caniatáu i bwyslais arbennig gael ei roi ar brosiectau colofn ddŵr uchel, sydd yn arbennig o briodol i dirwedd yr Alban. A wnewch chi roi sicrwydd i’r Siambr hon, yn eich trafodaethau pellach â Cyfoeth Naturiol Cymru, bod materion yn ymwneud â’r broses echdynnu y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn cael eu teilwra i amgylchiadau Cymru er mwyn gwneud y gorau o’r elw posibl i’r rheini sy’n buddsoddi mewn cynlluniau o’r fath ledled Cymru?
 
14:02
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n gobeithio y gallaf dawelu meddwl yr Aelod. Cyfeiriais at hyn wrth ateb cwestiwn blaenorol. Cwrddais â rheolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru’r bore yma. Cyflwynais y pwyntiau hynny i reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a, rhaid imi ddweud, mae’r rhain yn bwyntiau yr oeddent yn barod i’w derbyn. Os darllenwch y llythyr cylch gwaith a roddais i Cyfoeth Naturiol Cymru ar 28 Mawrth, fe welwch fod cytundeb bod Cyfoeth Naturiol Cymru am fod yn rheoleiddiwr ystwyth, rhagweithiol sy’n ceisio sicrhau bod pethau’n digwydd, yn hytrach na dim ond ceisio creu rhwystrau. Rydym yn cytuno ein bod am geisio sicrhau bod prosiectau’n cael cymorth, lle bynnag y bo’n bosibl.
 
14:03
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar William Powell i ofyn ail gwestiwn a hwnnw’n un byrrach.
 
14:03
William PowellBywgraffiad
Yn wir. Diolch, Lywydd. Yn y cyfnod yn arwain at ddathlu pen-blwydd Robert Owen, mae Robert Owen Renewables Ltd, cwmni sy’n eiddo i’r gymuned yn y Drenewydd, yn cyflwyno cynllun pwysig iawn yng nghored Mhenarth. Gofynnaf i’r Gweinidog ystyried ymweld â’r safle hwnnw, os bydd ei ​​ddyddiadur yn caniatáu, ac a fyddai’n cydnabod ei fod yn brosiect rhagorol yn y sector dŵr.
 
14:03
Alun DaviesBywgraffiad
Byddwn bob amser yn croesawu ymweliad â Sir Drefaldwyn.
 
14:03
Russell GeorgeBywgraffiad
Rwy’n hapus iawn gyda’ch ateb diwethaf, Weinidog. Mae anghysondeb yn broblem sy’n llesteirio cynlluniau ledled Cymru, hynny yw, pa mor gyson, neu anghyson yn hytrach, yr oedd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar y pryd wrth weinyddu’r canllawiau. Rwyf wedi cael tystiolaeth gref gan ddatblygwyr eu bod wedi cael eu trin yn wahanol yn dibynnu ar ba swyddfa yng Nghymru oedd yn delio â’u cais. Mae hynny, wrth gwrs, yn annerbyniol. Sut y byddwch yn sicrhau bod y corff newydd yn cymhwyso ymagwedd gyson ar draws y sefydliad, fel bod ceisiadau yn cael eu trin yn gyfartal a bod y broses benderfynu yn gyson ym mhob rhan o Gymru?
 
14:04
Alun DaviesBywgraffiad
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai un o’r rhesymau dros sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru oedd gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd angen cyngor rheoleiddio a phenderfyniadau rheoleiddio. Rwy’n gwbl sicr y bydd hynny’n digwydd yn y dyfodol. Os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon yn y dyfodol, dylai eu cyfeirio ataf i, ond mae gennyf bob ffydd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaethau ardderchog a chyson ar draws Cymru gyfan.
 
14:04
Simon ThomasBywgraffiad
Rwy’n falch o glywed rhai o’r datganiadau a wnaed heddiw ynghylch cynlluniau trydan dŵr. Mae’n amlwg bod rhywfaint o ailfeddwl yn digwydd, oherwydd ceir rhwystr sy’n atal y prosiectau hyn rhag cael eu datblygu yn y canolbarth a’r gorllewin. A yw’r Llywodraeth yn rhoi unrhyw ystyriaeth i ganiatáu i ffermwyr neu unrhyw gynlluniau sy’n gysylltiedig â datblygu gwledig gael rhyw fath o hawliau datblygu a ganiateir yn y system gynllunio yng Nghymru?
 
14:05
Alun DaviesBywgraffiad
Byddaf yn trafod y materion hynny gyda’r Gweinidog cynllunio yn ddiweddarach y prynhawn yma.
 
14:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trosglwyddwyd cwestiwn 10, OAQ(4)0004(NRF), i’w ateb yn ysgrifenedig.
 
Targed Plannu Coed
 
14:05
Aled RobertsBywgraffiad
11. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad yn erbyn y targed ar gyfer plannu coed erbyn 2020 o fewn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol? OAQ(4)0013(NRF)
 
14:05
Alun DaviesBywgraffiad
Rwyf am gynyddu’r gyfradd plannu coed, a bydd fy swyddogion yn cyflwyno amrywiaeth o opsiynau i gyflawni hyn imi erbyn diwedd mis Mehefin.
 
14:05
Aled RobertsBywgraffiad
Rwy’n derbyn bod hyn yn rhan o’ch cyfrifoldebau newydd, ond mae’r gyfradd plannu yn y tair blynedd cyntaf yn siomedig. A ydych yn bwriadu creu tragedau un ai blynyddol neu o fewn yr 20 mlynedd er mwyn i’r Cynulliad allu monitro perfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu herbyn?
 
14:06
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n credu y byddai targedau o les ac yn help i ni, ac efallai bod hynny’n rhywbeth y gallwn ei ystyried fel rhan o’r drafodaethau ar gyfer y cynllun datblygu gwledig nesaf. Rwy’n hapus iawn i gynnal y trafodaethau hynny. Rwy’n atgoffa’r Aelod bod y dyddiad targed ar gyfer plannu yw 2030, felly nid wyf yn credu bod yn rhaid i ni fod yn rhy galed ar ein hunain ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy’n derbyn y pwynt ehangach. Rydym wedi derbyn 417 o gynlluniau hyd yn hyn, ond mae’n rhaid i ni gynyddu faint o blannu sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy’n cytuno gyda’r Aelod ar hynny ac rwy’n hapus i dderbyn y gall targedau fod o les ac yn help i ni wneud hynny.
 
14:06
Darren MillarBywgraffiad
Mae plannu coed newydd yn ffordd hanfodol o wella ein hamgylchedd, Weinidog, ond mae llawer o hen goed yng Nghymru y mae angen rhoi sylw iddynt a’u gwarchod. Gwyddom am dderwen Pontfadog, a syrthiodd a hithau dros 1,200 o flynyddoedd oed, ond mae coeden hyd yn oed yn hŷn yn fy etholaeth i, yr amcangyfrifir ei bod rhwng 4,000 a 5,000 o flynyddoedd oed, sef ywen Llangernyw. A wnewch chi gadarnhau heddiw eich bod yn bwriadu ymweld ag ywen Llangernyw ac a allwch amlinellu pa ddiogelwch ychwanegol y gallech ei roi i goed o’r fath, a all fod yn agored i niwed yn y dyfodol?
 
14:07
Alun DaviesBywgraffiad
Gan dybio nad yw’r Aelod yn fy ngwahodd i’w dringo, derbyniaf ei wahoddiad caredig iawn yn hapus. Mae’r Aelod dros Dde Clwyd eisoes wedi fy ngwahodd i ymweld â’r goeden a syrthiodd fis diwethaf. Hoffwn ychwanegu nad fi oedd yn gyfrifol am hynny. [Chwerthin.] Fodd bynnag, ie, byddwn yn dweud bod angen inni gael fframwaith statudol llawer gwell ar gyfer y materion hyn ac efallai y byddai ymweld â’r goeden a syrthiodd a’r goeden sydd yn dal i sefyll yn fy helpu i ddeall y materion hyn. [Torri ar draws.] Ac yna yn sicr byddaf yn plannu un.
 
Albion Water
 
14:08
Bethan JenkinsBywgraffiad
12. Pa gamau gweithredu y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn dilyn y Tribiwnlys Apelau Cystadlu diweddar, lle y gorchmynnwyd i Dŵr Cymru dalu bron £1.9 miliwn i Albion Water? OAQ(4)0008(NRF)
 
14:08
Alun DaviesBywgraffiad
Rwy’n ymwybodol o’r sefyllfa rhwng Dŵr Cymru ac Albion Water. Gan fod hwn yn anghydfod cyfreithiol rhwng y ddau gwmni, byddai’n amhriodol imi roi sylwadau pellach.
 
14:08
Bethan JenkinsBywgraffiad
Amlygodd y dyfarniad damniol yr anawsterau wrth geisio cyflwyno cystadleuaeth i ddiwydiant cyfleustodau megis y diwydiant dŵr. Heb fanylu ar y goblygiadau cyfreithiol, a oes unrhyw wersi y gallwn eu dysgu yng Nghymru, fel, o bosibl, cael math gwahanol o system yng Nghymru sy’n debyg i’r hyn a oedd gennym cyn i’r diwydiant dŵr gael ei breifateiddio? A allwn geisio’r pwerau hynny gan San Steffan fel bod gennym reolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain yng Nghymru?
 
14:09
Alun DaviesBywgraffiad
Fel y dywedais wrth yr Aelod yn fy ateb cynharach, ni ddylid cysylltu unrhyw un o’m sylwadau â’r anghydfod cyfreithiol hwnnw mewn unrhyw ffordd. O ran polisi ehangach, nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon a gyflwynodd Martin Cave a rhai o’r materion a gynhwysir ym Mil dŵr arfaethedig Llywodraeth y DU. Atebais rai cwestiynau ar hyn ym Mhwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf. Croesawaf gynnig Llywodraeth y DU inni i ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y lle hwn dros garthffosiaeth; mae gennym eisoes gymhwysedd deddfwriaethol dros ddŵr. Siaradais â Richard Benyon, Gweinidog y DU y bore yma i drafod hynny a materion eraill a gynhwysir yn y Bil dŵr. Rwyf wedi dweud wrtho nad yw’n bolisi gan y Llywodraeth hon i dderbyn unrhyw bwerau ymyrryd a ddelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Credwn ein bod wedi symud y tu hwnt i hynny o ran datganoli erbyn hyn a bod pwerau ymyrryd yn amherthnasol i setliad cyfansoddiadol heddiw yn y Deyrnas Unedig.
 
14:10
Antoinette SandbachBywgraffiad
Weinidog, nododd y dyfarniad o’r tribiwnlys apelau cystadlu fod Dŵr Cymru wedi trin yr achos hwn mewn modd a oedd yn gyfystyr â methiant amlwg a beius o lywodraethu corfforaethol, a thynnwyd sylw at ddiffyg cymhwysedd a goruchwyliaeth y staff sy’n ymwneud â’r broses o bennu pris cludiant cyffredin ar gyfer Albion. Weinidog, pa sicrwydd a gawsoch gan Dŵr Cymru ei fod bellach yn gweithredu llywodraethu corfforaethol mewn ffordd sy’n dderbyniol ac sy’n cydymffurfio â’r gyfraith?
 
14:10
Alun DaviesBywgraffiad
Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, gan ei fod yn sefyllfa gyfreithiol, byddai’n amhriodol imi roi sylw pellach.
 
Echdynnu Dŵr yn Fasnachol
 
14:11
Russell GeorgeBywgraffiad
13. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau echdynnu dŵr yn fasnachol yng Nghymru? OAQ(4)0011(NRF)
 
14:11
Alun DaviesBywgraffiad
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio gwaith echdynnu dŵr trwy drwyddedau echdynnu. Mae’r trwyddedau hyn yn awdurdodi cyfaint y dŵr a’i ddefnydd. Mae’r diwydiant yn echdynnu 176 Gl y flwyddyn ar gyfartaledd, 20% o’r cyfanswm a echdynnir yng Nghymru.
 
14:11
Russell GeorgeBywgraffiad
Diolch am eich ateb, Weinidog. Tynnwyd y mater o echdynnu dŵr o Gwm Camlad at sylw eich rhagflaenydd y llynedd, oherwydd pryder y cyhoedd fod yr adnodd naturiol hwn yn cael ei ddefnyddio’n fasnachol ar draul cyflenwadau dŵr lleol. A all y Gweinidog ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yw’r gyfradd gynaliadwy uchaf o echdynnu a ganiateir ar gyfer dŵr potel masnachol heb gael effaith niweidiol ar ddefnyddwyr dŵr eraill, cynefinoedd sensitif a’r amgylchedd?
 
14:11
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r rhain yn faterion ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a byddwn yn gofyn ac yn cymryd ei gyngor arnynt.
 
Cyfarfodydd gyda’r Diwydiant Amaethyddol
 
14:12
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
14. Sawl cyfarfod y mae’r Gweinidog wedi ei gael gyda chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol ers iddo gael ei benodi? OAQ(4)0014(NRF)
 
14:12
Alun DaviesBywgraffiad
Ers i mi ymgymryd â’r cyfrifoldeb newydd, rwyf wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd â gwahanol bobl tu fewn i’r diwydiant amaethyddol.
 
14:12
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Diolchaf yn fawr i’r Gweinidog am ei ateb. Beth y mae ef yn ystyried yw diben y cyfarfodydd hyn? Ai iddo ef gyfathrebu polisi Llywodraeth Cymru, neu iddo wrando ar dystiolaeth y diwydiant amaethyddol?
 
14:12
Alun DaviesBywgraffiad
Rydym yn cael lot fawr o drafodaethau lle yr rwyf yn gwrando arno ac mae’n gwrando arnaf i.
 
14:12
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Weinidog, rwy’n siŵr, pan fyddwch wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol, un peth a fydd wedi ei grybwyll yw’r firws Schmallenberg. Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y sawl her sy’n wynebu ein ffermwyr, yn enwedig ar adeg y tywydd eithafol yn ddiweddar. A allwch gadarnhau pa ganllawiau diweddar a gawsoch gan eich prif swyddog milfeddygol am ymateb eich Llywodraeth i’r clefyd hwn? Pa gynlluniau sydd gennych i ymgysylltu â ffermwyr ac ymgynghori â hwy er mwyn rhoi cyngor ar y clefyd erchyll hwn?
 
14:13
Alun DaviesBywgraffiad
Nid yw firws Schmallenberg yn glefyd hysbysadwy, felly nid ydym yn delio ag ef yn yr un ffordd ag y byddem yn delio â chlefydau hysbysadwy; bydd y prif swyddog milfeddygol yn cysylltu â milfeddygon preifat lleol, a fydd yn delio â’r ffermwyr unigol dan sylw.
 
Prosiectau Ynni Adnewyddadwy
 
14:13
Simon ThomasBywgraffiad
15. Pa rôl y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae o ran ystyried prosiectau ynni adnewyddadwy yng nghanolbarth Cymru. OAQ(4)0016(NRF)
 
14:13
Alun DaviesBywgraffiad
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r ymgynghorai statudol ar gyfer cyrff sy’n rhoi caniatâd i brosiectau ynni. Mae hefyd yn darparu cyngor a data i ymgeiswyr ac yn rhoi trwyddedau a hawlenni y gallai fod eu hangen ar gyfer adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy.
 
14:14
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae’n amlwg fod gan y corff newydd rôl gwbl allweddol i ganiatáu neu beidio â chaniatáu datblygu ynni adnewyddadwy yn y canolbarth. Mae nifer fawr o brosiectau mawr iawn naill ai wedi eu cyflwyno yn y canolbarth neu ar fin cael eu cyflwyno yno. Rwyf yn poeni nad oes digon o gapasiti gan y corff newydd yn y canolbarth yn benodol. Rwyf yn ymwybodol o un cais am felinau gwynt sydd wedi bod yn aros tair blynedd i’r cyrff blaenorol, ac yn awr Cyfoeth Naturiol Cymru, benderfynu ar argymhelliad i’r awdurdodau lleol. A ydych yn glir bod digon o gapasiti i ddelio â’r llu o geisiadau sydd yn dod ac a ydych yn cymryd camau i sicrhau bod capasiti ar gael?
 
14:14
Alun DaviesBywgraffiad
Mae’r Aelod yn codi pwynt teg iawn. Un o’r rhesymau dros sefydlu’r corff newydd oedd i sicrhau ein bod yn lleihau gweinyddiaeth a’r strwythurau y mae’n rhaid i bobl fynd trwyddynt er mwyn cael caniatâd angenrheidiol. Felly, rwy’n gobeithio ein bod wedi creu mwy o gapasiti yn y system trwy greu un corff sy’n gwneud y gwaith hwn i gyd. Nid wyf wedi cael fy rhybuddio gan reolwyr y corff newydd fod ganddynt broblemau â chapasiti. Petaent yn dod ataf gydag adroddiad sy’n dweud bod ganddynt broblemau capasiti, byddem yn trafod hynny gyda hwy ar y pryd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwy’n mawr obeithio y gwelwn benderfyniadau yn cael eu cymryd tipyn yn gynt nag yn y gorffennol.
 
14:15
Russell GeorgeBywgraffiad
A ddywed y Gweinidog wrthyf pryd y bydd y canllawiau arfer da ar gyfer cynlluniau trydan dŵr yn cael eu cyhoeddi?
 
14:15
Alun DaviesBywgraffiad
Fel y nodwyd sawl gwaith yn ystod y sesiwn holi hon, rwyf wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu’r modd y mae arweiniad yn cael ei roi i ddatblygwyr ynni dŵr. Rwyf hefyd wedi cwrdd â’r diwydiant er mwyn trafod y problemau y mae’n eu hwynebu. Cyfarfûm â chynrychiolwyr o’r diwydiant ar 25 Ebrill a gofynnais iddynt roi gohebiaeth imi yn amlinellu’r anawsterau y gwnaethant eu hwynebu. Gwnaethant ateb ar 29 Ebrill, ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn edrych ar yr ohebiaeth honno gyda’r bwriad o drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sut y gallwn oresgyn yr anawsterau hynny. Rwyf wedi rhoi ymrwymiad i’r diwydiant y byddaf yn cwrdd â’i gynrychiolwyr eto ddechrau mis Hydref er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiadau a roddais yn gynharach y mis hwn yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd.
 
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
Asesiadau Marchnad Tai
 
14:16
Aled RobertsBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o asesiadau marchnad tai o fewn cynlluniau datblygu lleol? OAQ(4)0255(HR)
 
14:16
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Tai ac Adfywio
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae asesiadau o’r farchnad dai leol yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn sy’n nodi’r cymysgedd priodol o dai marchnad a thai fforddiadwy o fewn ardal yr awdurdod. Mae Asesiad cyfredol o’r Farchnad Dai Leol yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall polisïau tai mewn cynllun datblygu lleol gael eu cyfiawnhau o’u harchwilio, gan arwain at gynllun a fabwysiadwyd sydd o fudd i’r gymuned gyfan.
 
14:17
Aled RobertsBywgraffiad
Byddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod llawer o’r cynlluniau yn y gogledd bellach ar eu hôl hi oherwydd anghydfodau tystiolaethol rhwng ystadegau’r awdurdodau lleol ac ystadegau Llywodraeth Cymru. Awgrymodd yr adroddiad diweddar gan Dr Haywood y bydd angen mwy o gydweithrediad trawsffiniol o ran materion cynllunio. Beth yw eich dealltwriaeth o effeithiau unrhyw ran o’r cydweithrediad trawsffiniol hwnnw ar gynyddu’r angen a aseswyd am dai?
 
14:17
Carl SargeantBywgraffiad
Mater i awdurdodau lleol unigol yw hyn. Hoffwn longyfarch un awdurdod, Cyngor Sir Ddinbych, ar gael adroddiad cadarnhaol yn ddiweddar gan arolygwyr ar fabwysiadu ei Gynllun Datblygu Lleol. Gwnaeth yr asesiad o’r farchnad dai leol, yn ddiau, gynorthwyo yn y gwaith o sicrhau canlyniad llwyddiannus hynny. Mae’n bwysig deall, yn rhanbarthol, beth yw’r asesiad o’r farchnad. Mae’n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn fanwl iawn o ran y Biliau cynllunio a thai rydym yn eu gweithredu.
 
14:18
Vaughan GethingBywgraffiad
Byddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi bod yn edrych ar y mater hwn. Yn yr ymchwiliad hwnnw hyd yn hyn, rydym wedi edrych ar asesiadau o’r farchnad dai, a’r materion ynghylch y ffigurau a’r tybiaethau o ran twf. Fodd bynnag, y broblem benodol sydd gennyf yw’r cysylltiad rhwng hyn a chydweithio rhanbarthol. Nid yw tai na’r farchnad gyflogaeth yn parchu ffiniau a therfynau awdurdodau lleol. Yn aml, mae marchnadoedd tai yn mynd dros ffin mwy nag un awdurdod lleol. A allwch gadarnhau, yn y dyfodol, y bydd gennych broses gliriach a mwy tryloyw o lawer sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adlewyrchu realiti’r marchnadoedd rhanbarthol hynny yn y ffordd y maent yn ymgymryd â’u cynlluniau datblygu lleol?
 
14:18
Carl SargeantBywgraffiad
Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn y dyfodol.
 
14:19
Darren MillarBywgraffiad
A gytunwch, Weinidog, mai un o’r diffygion yn y broses o asesu’r farchnad dai yw mai dim ond ciplun mewn amser ydyw pan gaiff asesiad ei wneud? Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, er enghraifft, ymgymerwyd â’i asesiad cychwynnol o’r farchnad dai ar anterth y ffyniant yn y farchnad eiddo, ac roedd galw enfawr am dai. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa gyfredol yn awr yn wahanol iawn o ran lefel y galw am gartrefi newydd, yn arbennig. O gofio hynny, pa ganllawiau diwygiedig y byddwch yn eu cyhoeddi ar asesiadau o’r farchnad dai er mwyn sicrhau y gall y ffactorau hynny gael eu hystyried wrth ragfynegi galw yn y dyfodol?
 
14:19
Carl SargeantBywgraffiad
Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â’ch sylwadau. Mae’r asesiad o’r farchnad dai leol yn amlwg yn gweithio mewn llawer o ardaloedd, ac rydym eisoes wedi mabwysiadu polisïau sy’n ymwneud â chynlluniau datblygu lleol. O ran rhaglen benodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’n destun craffu cyhoeddus drwy archwiliad ac ni allaf gynnig unrhyw sylwadau ar hynny, yn unigol.
 
14:20
Llyr Huws GruffyddBywgraffiad
Weinidog, mae data newydd sy’n deillio o gyfrifiad 2011 a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos twf is mewn aelwydydd o’i gymharu â’r set flaenorol o amcanestyniadau. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth, felly, i ddiwygio ei rhagamcanion ar gyfer nifer y tai y disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol eu cyflawni o fewn eu cynlluniau datblygu lleol gan eu lleihau?
 
14:20
Carl SargeantBywgraffiad
Caiff y ffigurau asesu eu hadolygu’n gyson, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn cydnabod yr hyblygrwydd yn y system, sydd wedi’i arwain gan y galw. Ni allwn gynllunio ar gyfer y presennol yn unig; rhaid inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, sef sicrhau bod gennym sail dystiolaeth gadarn ar gyfer asesiad hirdymor, ac mae’n rhywbeth y mae fy nhîm yn dra addas i’w ystyried, ynghyd â rhoi’r arweiniad cywir i awdurdodau lleol wneud eu penderfyniadau.
 
Trafodaethau â Gweinidogion Cyfatebol
 
14:20
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ers ei benodi i’w swydd? OAQ(4)0250(HR)
 
14:20
Carl SargeantBywgraffiad
Ers fy mhenodiad diweddar iawn, fel y gŵyr yr Aelod, rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Gweinidog Gwladol dros Dai ac rwy’n aros yn eiddgar am ei ymateb. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r holl Weinidogion cyfatebol ledled y DU maes o law.
 
14:21
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Pan fydd y Gweinidog yn cael cyfle i gyfarfod â Gweinidogion cyfatebol y Deyrnas Unedig, a wnaiff eu hatgoffa bod datganoli yn golygu bod cynllunio yng Nghymru yn gyfrifoldeb iddo ef fel Gweinidog a’i fod yn atebol i’r Cynulliad, ac nad ydym yn disgwyl i synau gael eu gwneud o’r ochrau pan fyddwn yn trafod y Bil cynllunio a ddaw gerbron y Cynulliad yn fuan?
 
14:21
Carl SargeantBywgraffiad
Wrth gwrs, ac mae’r Aelod yn iawn i godi mater y Bil cynllunio sylweddol, a gaiff ei ddilyn gan Fil cynllunio cydgrynhoi. Byddwn yn gwneud penderfyniadau sydd er budd gorau Cymru, gan sicrhau mai’r prif ffactor ysgogi yn hyn yw adeiladu’r economi ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu Cymru well ar gyfer y dyfodol.
 
14:22
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar lefarydd yr wrthblaid, Mark Isherwood.
 
14:22
Mark IsherwoodBywgraffiad
Weinidog, ers eich penodiad, nid oes unrhyw amheuaeth nad ydych, ymhlith pethau eraill, wedi bod yn ymgyfarwyddo â thrafodaethau y bydd eich rhagflaenydd wedi’u cael â Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r mater dadleuol o newidiadau mewn budd-dal tai. O gofio i ganllaw arfer da gael ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Mawrth 2011 ar daliadau tai dewisol, gyda chylchlythyr pellach wedi’i gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2012 yn manylu ar eithriadau, grwpiau â blaenoriaeth ac yn y blaen, pam, er gwaethaf mwy na dwy flynedd o rybudd, na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion cyflenwi hysbys, eithriadau a nodwyd a grwpiau â blaenoriaeth ar gyfer mwy o gymorth nes bod y newidiadau bron ar ein gwarthaf?
 
14:22
Carl SargeantBywgraffiad
Gadewch inni beidio â cheisio osgoi cyfrifoldeb yma: caiff y diwygiadau lles hyn eu hyrwyddo gan y Llywodraeth glymblaid ddideimlad yn y DU, felly ni ddysgaf unrhyw wersi gan yr Aelod gyferbyn. Pan ystyriwch y bydd y dreth ystafell wely yn dadleoli llawer o deuluoedd yn ein cymunedau, dylech ailystyried y cwestiwn y gwnaethoch ei ofyn imi. [Torri ar draws.]
 
14:23
Mark IsherwoodBywgraffiad
Beth achosodd hyn? Byddwn yn awgrymu eich bod yn gwirio maniffesto’r DU eich plaid eich hun a’i argymhellion yn hyn o beth, oherwydd efallai y byddai rhai yn awgrymu eich bod mewn gwirionedd wedi oedi ac oedi, gan ddefnyddio’r bobl i lunio a manteisio i’r eithaf ar y boen, yn hytrach na chymryd y cyfnod hwnnw o ddwy flynedd i lywio’r newid. Felly, pam nad ydych wedi ymateb fel Llywodraeth i’r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant 2011, gan gydnabod y prinder ymysg grwpiau sy’n agored i niwed yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, sef
 
bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio hyrwyddo delwedd gyhoeddus gadarnhaol o’r sector rhentu preifat fel dewis o ran deiliadaeth yng Nghymru,
 
pan oedd sefydliadau landlordiaid cyfrifol wedi dweud wrthym eu bod eisoes wedi ymgorffori newidiadau o ran budd-dal tai, fel bod angen i newid gael ei reoli mewn awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, o gofio iddynt ddweud wrthyf— 
 
14:23
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes cyfieithiad wedi cael ei ddarparu ar gyfer y sylw hwn.
 
14:23
Mark IsherwoodBywgraffiad
—pan oedd y newidiadau ond pythefnos i ffwrdd, bod Llywodraeth Cymru yn dal heb ddechrau ar yr ymgysylltu a’r gweithio yr oedd eu hangen arnynt er mwyn gwneud i hyn ddigwydd?
 
14:24
Carl SargeantBywgraffiad
Ni fydd y rhethreg na’r sbin gan yr Aelod gyferbyn byth yn gwyro oddi wrth y problemau y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi i bobl Cymru, sef y byddwch yn dadleoli llawer o deuluoedd yn ein cymunedau. Wrth gwrs, mae a wnelo â’r Llywodraeth Geidwadol yn y DU sy’n gwneud y penderfyniadau hyn am breswylfeydd yng Nghymru.
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
 
14:24
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, ers methiant cynllun NewBuy Cymru, a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch p’un a allant helpu i atgyfodi’r cynllun?
 
14:24
Carl SargeantBywgraffiad
Nid gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.
 
14:24
Peter BlackBywgraffiad
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, pan fethodd eich cynllun, gwnaethoch feio hyn ar y ffaith bod y cynllun wedi cael ei roi ar waith gan Lywodraeth y DU. A ydych bellach mewn sefyllfa i ddweud a ellir adfywio cynllun NewBuy Cymru? Os nad ydych, a wnewch chi addo yn awr siarad â Gwenidogion Llywodraeth y DU am b’un a allwn wneud defnydd o’u cynllun er mwyn helpu’r prynwyr tro cyntaf yng Nghymru?
 
14:24
Carl SargeantBywgraffiad
Rydym yn dal i fynd ar drywydd y cynllun y bwriadwyd iddo gael ei lansio ond cafodd ei ohirio oherwydd buddiannau trydydd-parti a chyhoeddiad Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym yn dal i gynnal trafodaethau â’r sefydliadau.
 
Llif Arian Parod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
 
14:25
Mike HedgesBywgraffiad
3. Pa ragamcanion sydd gan y Gweinidog am effaith y newidiadau i fudd-dal ar lif arian parod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? OAQ(4)0245(HR)
 
14:25
Carl SargeantBywgraffiad
Diolchaf i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe am ei gwestiwn. Rhagwelaf y bydd y newidiadau yn cael effaith andwyol ar lif arian parod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae fy nhîm rheoleiddio wedi ystyried y rhagamcanion y mae landlordiaid wedi eu gwneud a’r effeithiau posibl ar eu rhagolygon ariannol 30 mlynedd. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa hon.
 
14:25
Mike HedgesBywgraffiad
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn sicr rwy’n pryderu ynghylch effaith y rhan fwyaf o’r newidiadau i fudd-daliadau, yn enwedig taliad uniongyrchol. Mae Lynne Neagle wedi amlinellu o’r blaen yn y Siambr y problemau a ddigwyddodd yn un o’r prosiectau peilot. A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw arwydd bod cynnydd mewn taliadau benthyca yn debygol o ddigwydd ar gyfer y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hynny ar gyfraddau newidiol?
 
14:26
Carl SargeantBywgraffiad
Fel y soniais mewn ymateb i’ch cwestiwn yn gynharach, gwnawn asesiadau o’r sefyllfa gyda landlordiaid. Credwn eu bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa sefydlog, a gobeithiwn y bydd hynny’n parhau, ond mae’n sicr yn risg y dylent fod yn ymwybodol ohoni ar gyfer y dyfodol.
 
14:26
Antoinette SandbachBywgraffiad
Weinidog, pan wyf wedi cyfarfod â chymdeithasau tai yn y gogledd maent wedi nodi sut y mae’r gofyniad i sicrhau bod eu heiddo yn cyrraedd safon ansawdd tai Cymru wedi dargyfeirio buddsoddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf a fyddai fel arall wedi mynd i mewn i adeiladu llety un ystafell wely a dwy ystafell wely newydd. A allwch gadarnhau pa gynlluniau sydd gennych i gwrdd â chynrychiolwyr o gymdeithasau tai yn y gogledd i drafod y gyfran o’r £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ddoe a fydd yn mynd i gymdeithasau tai yn y gogledd i adeiladu’r llety hwnnw?
 
14:26
Carl SargeantBywgraffiad
Rwyf eisoes wedi cwrdd â chymdeithasau tai yn y gogledd, ac nid oes un ohonynt wedi codi’r mater ynghylch safon ansawdd tai Cymru gyda mi. Mae’n gywilyddus bod yr Aelod yn credu ei bod yn iawn i bobl fyw mewn tai o ansawdd gwael heb unrhyw fuddsoddiad yn eu cartrefi, ond eto ni ddylwn synnu at yr Aelod Ceidwadol.
 
14:27
Bethan JenkinsBywgraffiad
Weinidog, byddwch yn gwybod bod Cutswatch a Chwarae Teg wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar sydd wedi eu hanelu yn benodol at liniaru effaith diwygiadau lles, gan gynnwys y cynnig y dylai’r Llywodraeth ymchwilio i’r posibilrwydd o landlordiaid cymdeithasol yn ail-benodi tai fel ffordd o fanteisio ar fylchau yn y dreth ystafell wely. A ydych chi wedi ystyried gwneud hynny, neu a ydych wedi siarad â chynghorau i wneud hynny? Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod bod cynghorau yn Lloegr wedi gwneud hyn. Beth fydd eich Llywodraeth yn gwneud am y peth?
 
14:27
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae ailddynodi yn un opsiwn y gall awdurdodau lleol ei ystyried, ac mae’n rhywbeth y gwn eu bod yn ei ystyried o ddifrif. Fodd bynnag, rhaid i hynny gael ei ystyried yn gyffredinol o ran p’un a yw’r broses archwilio yn briodol ac yn gyfreithiol. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Huw Lewis, sy’n hyddysg iawn yn y materion hyn, yn ei ddatblygu yn yr agwedd diwygio lles ar ei bortffolio.
 
14:28
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae Cwestiwn 4, OAQ(4)0246(HR), wedi’i drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.
 
Canllawiau Cynllunio
 
14:28
Keith DaviesBywgraffiad
5. Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynglyn â chanllawiau cynllunio? OAQ(4)0257(HR)
 
14:28
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Lanelli am ei gwestiwn. Ers cymryd cyfrifoldeb am gynllunio rwyf wedi cael nifer o drafodaethau ynghylch canllawiau cynllunio.
 
14:28
Keith DaviesBywgraffiad
Diolch am yr ateb. Gan ystyried nodyn cyngor technegol 15, ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a’r nod i symud tuag at agwedd fwy positif o reoli perygl llifogydd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod agwedd cynaliadwy at ddatblygiadau yn cael ei chymryd?
 
14:29
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn eto. Nodir polisi a chanllawiau cynllunio ar gyfer Cymru yn glir iawn yn ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Mae’r mater ynghylch TAN 15 a godwyd gan yr Aelod o ran cyngor i awdurdodau lleol ar adeiladu mewn ardaloedd lle ceir llifogydd wedi ei gynnwys yn y ddogfen polisi cynllunio genedlaethol. Nod y polisi yw diogelu ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd, ac rydym yn parhau i sicrhau bod hyn yn cael ei gymhwyso a’i ystyried ym mhob awdurdod cynllunio yng Nghymru.
 
14:29
Russell GeorgeBywgraffiad
Mae pryderon lleol ym Mhowys o ran perfformiad y parc cenedlaethol mewn perthynas â chynllunio. Mae pobl yn parhau i godi gyda mi faterion o ran tanberfformio yn ei erbyn, targedau statudol a diffyg cydymffurfio â chanllawiau cynllunio, heb unrhyw gamau i sicrhau gwelliant a chydymffurio. Sut y byddwch yn gweithio gyda’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i weld bod y broblem hon yn cael ei datrys yn briodol?
 
14:30
Carl SargeantBywgraffiad
Os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf, gan dynnu sylw at y materion a godwyd gydag ef, byddwn yn cymryd hynny o ddifrif, ac yn edrych arno gan ymateb iddo yn unol â hynny.
 
14:30
Simon ThomasBywgraffiad
Cyfeiriaf at TAN 20, sef y nodyn cyngor technegol sy’n delio ag effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg. Ymgynghorodd y Llywodraeth ar ddiwygio TAN 20 ddwy flynedd yn ôl. Hyd heddiw, nid ydym wedi gweld y TAN newydd, ac mae llawer o bobl yn poeni nad yw’r TAN presennol yn ddigonol i ddelio â cheisiadau megis Pen-y-banc yn fy rhanbarth i, lle mae cynghorwyr Llafur a Phlaid Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â’r cynlluniau yno. Pryd welwn ni’r TAN 20 newydd, Weinidog?
 
14:30
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Rwy’n ymwybodol o’r ymrwymiad i gwblhau’r adolygiad o TAN 20. Fel rhan o’m portffolio newydd, rwy’n ystyried y materion hyn cyn penderfynu pryd i gyhoeddi’r canllawiau newydd.
 
14:31
David ReesBywgraffiad
Noda ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’ ar hyn o bryd 500m fel clustogfa o aneddiadau am geisiadau cynllunio ar gyfer cloddio glo brig. Er ein bod yn aros am y cynlluniau datblygu lleol gan y gwahanol awdurdodau lleol sydd dal heb eu cyflwyno, a ddylai gynnwys yn benodol yr isafswm pellter hwnnw, a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y glustogfa hon wedi’i gorfodi gan awdurdodau lleol wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer cloddio glo brig? Ar ben hynny, a wnewch chi hefyd ystyried bod yr anheddiad yr un peth ag annedd unigol neu adeilad cymunedol?
 
14:31
Carl SargeantBywgraffiad
Heb beryglu unrhyw gais cynllunio cyfredol, rwy’n cydnabod cwestiwn yr Aelod yn glir. Dylai unrhyw awdurdod cynllunio fabwysiadu’r canllawiau yn briodol, yn y modd y maent yn gweithredu wrth benderfynu ar unrhyw gais cynllunio.
 
14:31
Darren MillarBywgraffiad
Weinidog, byddwch yn ymwybodol i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn ddiweddar gyhoeddi gwelliannau i’r system gynllunio, er mwyn caniatáu ar gyfer mynediad band eang cyflym. A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno trefniadau tebyg yng Nghymru, fel y gall cymunedau lleol yn fy etholaeth—ac eraill—elwa ar fynediad cyflym i fand eang dros y rhwydwaith ffonau symudol?
 
14:32
Carl SargeantBywgraffiad
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y Siambr y buddsoddiad mewn gwasanaethau band eang ar draws Cymru. Nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw broblem ynghylch yr agwedd gynllunio ar hyn a fydd yn ei atal rhag cael ei gyflwyno ledled Cymru. Fodd bynnag, os yw hynny’n wir, yna caf drafodaethau pellach â’r Gweinidog.
 
Safon Ansawdd Tai Cymru
 
14:32
Eluned ParrottBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0248(HR)
 
14:32
Carl SargeantBywgraffiad
Rydym wedi derbyn cynlluniau busnes gan bob awdurdod lleol ar sut y byddant yn cyrraedd safon ansawdd tai Cymru, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn disgwyl cyflawni’r safon yn 2017.
 
14:32
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cefais ohebiaeth gan sawl etholwr, mewn gwahanol rannau o’m rhanbarth, sy’n ofni nad ansawdd y gwaith yn gymaint sy’n cael ei asesu, ond yn hytrach mai nifer yr unedau cegin ac ystafelloedd ymolchi a osodir mewn tai sy’n cael ei fesur. Beth y gallwch chi ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod y gwaith sy’n cael ei wneud ar y tai hyn yn cael ei wneud i safon briodol a diogel?
 
14:33
Carl SargeantBywgraffiad
Byddwn yn gobeithio y dylai buddsoddiad o arian cyhoeddus mewn unrhyw stoc tai, drwy safon ansawdd tai Cymru, neu fel arall, gael ei ddefnyddio’n briodol. Unwaith eto, mae gennyf dystiolaeth anecdotaidd o amheuaeth ynghylch ansawdd rhywfaint o’r buddsoddiad mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth bellach yr hoffai ei rhannu â mi, byddwn yn hapus i’w derbyn.
 
14:33
Leanne WoodBywgraffiad
Weinidog, gwnaeth un o drigolion tai cymdeithasol a drosglwyddwyd drwy stoc gysylltu â mi yn ddiweddar, ac mae wedi cael problemau ofnadwy a hirsefydlog gyda llwydni yn ei gartref. Dengys lluniau a dynnwyd y tu mewn i’r tŷ, sy’n eiddo i Gartrefi RhCT, fod llawer iawn o lwydni yno. Yn fy marn i, ni ddylai neb fyw yn yr eiddo ac mae ymhell islaw safon ansawdd tai Cymru. Deallaf nad yw’r broblem hon yn unigryw mewn tai sy’n eiddo i’r gymdeithas dai hon, a bod y problemau yn ymwneud ag inswleiddio gwael. O gofio bod gennych y pwerau i ymyrryd mewn materion o’r fath, a fyddech yn barod i ymchwilio ymhellach i hyn, ac, os oes angen, mynd i weld yr amodau yn y tai hynny drosoch eich hun?
 
14:34
Carl SargeantBywgraffiad
Diolchaf i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Aelodau eraill hefyd wedi codi materion gyda mi heddiw yn ymwneud â rhywfaint o’r crefftwaith, yn ôl pob golwg, o ran rhoi Safon Ansawdd Tai Cymru ar waith. Y pwynt cyswllt cyntaf fyddai delio â Chartrefi RhCT, o ran y materion y mae’r Aelod yn eu codi. Os nad yw hynny’n llwyddiannus, byddwn yn hapus i gael nodyn pellach gan yr Aelod o ran y manylion, a byddwn yn hapus i fynd ar drywydd hynny.
 
Gwasanaeth Gofal a Thrwsio
 
14:35
Sandy MewiesBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfraniad y mae'r gwasanaeth Gofal a Thrwsio yn ei wneud o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion polisi. OAQ(4)0254(HR)
 
14:35
Carl SargeantBywgraffiad
Diolchaf i’r Aelod dros Ddelyn am ei chwestiwn. Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i bobl hŷn yng Nghymru drwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn gysurus a diogel.
 
14:35
Sandy MewiesBywgraffiad
Croesawyd eich cyhoeddiad ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer asiantaethau Gofal a Thrwsio yn fawr yn Sir y Fflint ac, yn wir, ar draws Cymru, lle mae’r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi gan bawb. Rhaid sylwedddoli pa mor werthfawr yw gwaith y gwasanaeth. A fyddech yn cytuno bod i waith Gofal a Thrwsio oblygiadau ehangach ar draws polisïau iechyd a chymdeithasol, gan hyrwyddo ansawdd bywyd a galluogi llawer o bobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain a byw’n annibynnol? A fyddech hefyd yn cytuno y dylai’r gwaith hwn barhau i gael ei gefnogi?
 
14:35
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r Aelod yn codi mater pwysig iawn. O fewn fy mhortffolio tai ac adfywio ceir rhai agweddau pwysig iawn fel y grant Cefnogi Pobl. Mae’r gwaith Gofal a Thrwsio sy’n parhau i gael ei wneud yn ein cymunedau yn arbed arian ac yn sicrhau y gall pobl fyw yn eu heiddo eu hunain, fel yr esboniwyd yn gynharach. Mae goblygiadau enfawr i’r cyllidebau iechyd, lles a gofal cymdeithasol os na wnawn hyn yn gywir, yn enwedig ar yr adeg hon ym maes tai. Felly, byddwn yn parhau, fel y gallwn, i sicrhau bod gwasanaeth ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru.
 
14:36
William GrahamBywgraffiad
Fe wyddoch fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan Gofal a Thrwsio. Mae’n ymyriad lefel isel gwych sy’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi. A allai’r Gweinidog awgrymu sut y gallai drafod hyn ymhellach â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a gweithio allan ffordd o’i werthuso’n iawn? Gobeithio y byddwch yn gallu dyrannu mwy o arian iddo yn y dyfodol.
 
14:37
Carl SargeantBywgraffiad
Yn sicr rwy’n hapus i gynnal trafodaethau â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y grant Cefnogi Pobl a Gofal a Thrwsio. Roedd diwedd diddorol i gyfraniad yr Aelod pan holodd am ffrydiau ariannu mwy i’r sefydliad hwn. Fel y gŵyr, rydym wedi cael gostyngiad o £1.7 biliwn o leiaf yn ein cyllideb diolch i Lywodraeth y DU. Efallai yr hoffai siarad â’i gyd-Aelodau yn Llundain.
 
14:37
Lindsay WhittleBywgraffiad
Pa ddarpariaethau fydd yn y Bil tai newydd a gaiff ei gyflwyno yn yr hydref i gydnadod y cyfraniad y mae Gofal a Thrwsio Cymru yn ei wneud i alluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain? Fel y mae William Graham newydd ei ofyn, a allwch sicrhau, yn eich trafodaethau â’r Dirprwy Weinidog, fod yr agwedd hon ar bolisi tai yn cael lle amlwg yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sydd ar ddod? Mae’n bwysig ein bod i gyd yn siarad â’n gilydd.
 
14:37
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater ynghylch gweithio gyda’n gilydd ar draws portffolios, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud. O ran safbwynt deddfwriaethol Gofal a Thrwsio, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny. Mae’r swyddogaeth a gyflawna yn bwysig i gymunedau, ac mae’n sicr yn bwysig i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i gefnogi hynny cyhyd ag y gallwn fforddio wneud hynny.
 
14:38
Nick RamsayBywgraffiad
Y peth gwych am Gofal a Thrwsio yw ei fod yn darparu cymorth ar lawr gwlad pan fo ei angen fwyaf. Ymwelais ag etholwr yn ddiweddar a oedd wedi cael boeler newydd wedi’i osod fel rhan o’r cynllun hwnnw. Rwy’n sylweddoli nad oes llawer o arian ar gael, ond a wnewch chi sicrhau eich bod yn cefnogi cynlluniau fel Gofal a Thrwsio, sy’n rhoi cymorth o’r fath, er gwaethaf y ffaith y bu’n rhaid i Lywodraeth y DU gwtogi ar yr arian y mae’n ei roi ichi oherwydd methiant Llywodraeth Lafur flaenorol y DU i wario’n briodol?
 
14:38
Carl SargeantBywgraffiad
Dechreuodd eich cwestiwn yn dda iawn. Wrth gwrs, byddaf yn parhau i geisio cefnogi Gofal a Thrwsio a sefydliadau eraill sy’n gwneud gwaith amhrisiadwy yn ein holl gymunedau wrth ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, yr henoed a rhai eiddil yn eu cartrefi eu hunain. Byddaf yn anwybyddu rhan olaf y cwestiwn, os caf.
 
Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu
 
14:39
Darren MillarBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ar adfywio cymunedol? OAQ(4)0244(HR)
 
14:39
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n ymwybodol y gall ffyrdd heb eu mabwysiadu fod yn broblem i drigolion a busnesau mewn rhai rhannau o Gymru, ond, yn y lle cyntaf, ymgysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol i bennu eu bwriadau yw’r ffordd orau o weithredu.
 
14:39
Darren MillarBywgraffiad
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Byddwch yn gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o ohebiaeth rhwng ein swyddfeydd mewn perthynas ag ystad Sandy Cove ym Mae Cinmel, sydd o fewn ardal adfywio strategol y gogledd, ac eto sy’n cael ei hanwybyddu’n aruthrol o ran yr angen i wella’r priffyrdd ar yr ystad honno, yn ogystal â’r draenio a goleuadau stryd, y mae eu safonau yn sylweddol is na’r safonau y dylent fod yn eu cyrraedd. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi arwydd heddiw y bydd eich swyddogion yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i ddatrys y problemau ar yr ystad. Mae’r broblem hon yn effeithio ar fwy na 250 o gartrefi. Mae’n debyg mai hon yw’r gymuned fwyaf yr effeithir arni gan ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Credaf ei bod yn deilwng o sylw cenedlaethol, nid sylw gan yr awdurdod lleol yn unig.
 
14:40
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n cydnabod diddordeb yr Aelod ac yn croesawu, fel bob amser, ei gwestiwn ar fater etholaethol yn y Siambr. Fodd bynnag, bydd yn gwybod bod yna rolau a chyfrifoldebau y mae awdurdodau eraill yn gyfrifol amdanynt. Gofynnaf i’r Aelod ofyn am eglurhad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn y lle cyntaf i edrych ar y posibilrwydd o wella’r ffordd hon. Os nad yw hynny’n bosibl, yna byddwn yn fodlon i drafodaethau pellach gael eu cynnal rhwng fy swyddogion a swyddogion y cyngor i weld beth yw’r cam nesaf.
 
14:40
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Weinidog, a ydych yn derbyn bod y broblem hon yn codi oherwydd y cytundeb rhwng awdurdodau lleol a datblygwyr ynglŷn â beth sydd angen ei wneud ar ystadau tai wrth iddynt gyflawni eu gwaith?
 
14:41
Carl SargeantBywgraffiad
Ydw, rwy’n cydnabod y mater y mae’r Aelod yn ei godi. Credaf y dylai hyn fod yn rhagofyniad o ran penderfyniadau cynllunio ynghylch ystadau. Fodd bynnag, mewn perthynas â’r cwestiwn blaenorol a godwyd gan Darren Millar, mae’r ystad yn deillio o’r 1930au, ac ni chredaf fod cytundebau adran 106 ar waith bryd hynny.
 
14:41
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Weinidog, a ydych chi felly yn derbyn bod angen protocol newydd rhwng awdurdodau lleol a datblygwyr ynglŷn â beth sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yr hewlydd hyn yn cael eu mabwysiadu, nid yn unig oherwydd y problemau ymarferol y mae Darren Millar wedi’u codi, ond hefyd oherwydd y problemau sy’n codi o ran y gwasanaethau brys pan fydd yr hewlydd yn dirywio? Mae’r gwasanaethau brys yn aml yn ei chael hi’n anodd cyrraedd tai ar hyd y hewlydd hyn ar ôl cael galwadau iddynt. A ydych chi’n cytuno bod angen y protocol newydd hwn?
 
14:42
Carl SargeantBywgraffiad
Ni chredaf fod angen protocol newydd arnom. Credaf ei fod yn gweithio’n dda iawn yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol yw cael trafodaethau â’r datblygwyr i sicrhau y cwblheir y gwaith o fewn y ffin cynllunio cyn iddynt adael safle. Dylai penderfyniad ar gais cynllunio ond cael ei ystyried yn gadarnhaol os yw’r trafodaethau hyn wedi eu cynnal ac mae’r ddwy ochr yn hapus i fwrw ymlaen ag ef.
 
14:42
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae cwestiwn 9, OAQ(4)0252(HR), wedi’i drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.
 
Eiddo Un Ystafell Wely
 
14:42
Mick AntoniwBywgraffiad
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd eiddo un ystafell wely ar gyfer tai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0247(HR)
 
14:42
Carl SargeantBywgraffiad
Mae argaeledd eiddo llai yn bwysig er mwyn helpu pobl i ymdopi â newidiadau mewn budd-dal tai. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau tai i wneud hynny. Deallaf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu cynyddu’r broses o ddarparu cartrefi un ystafell a dwy ystafell wely.
 
14:43
Mick AntoniwBywgraffiad
Weinidog, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae’r dreth ystafell wely yn effeithio ar bron i 1,000 o bobl yn fy etholaeth a bydd ganddynt, ar gyfartaledd, £624 yn llai yr un o ganlyniad i’r toriadau hyn. Mae Cartrefi RhCT wedi dweud bod diffyg o 1,000% yn argaeledd y cartrefi hyn, sy’n achosi cyfyng-gyngor mawr i’r teuluoedd hynny. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru effeithiau canlyniadau trychinebus y dreth ystafell wely?
 
14:43
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig iawn. Fel y gŵyr yr Aelod, ymunodd y Gweinidog Cyllid â mi ddoe i gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer y rhaglen tai cymdeithasol i eiddo llai o faint. Fodd bynnag, er i hynny gael ei groesawu gan lawer ledled Cymru, ni fyddwn yn gallu cyflenwi nifer yr eiddo un ystafell wely sydd ei hangen ledled Cymru, oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn rhoi newidiadau diwygio lles ar waith a chyflymder hynny.
 
14:44
Leanne WoodBywgraffiad
Weinidog, mae’r dreth ystafell wely yn achosi anawsterau ariannol i bobl ym mhob rhan o Gymru. Croesawn y cyllid ychwanegol sydd ar gael, ond rwy’n siŵr y derbyniwch nad yw’n ddigon o bell ffordd i fynd i’r afael â’r broblem. Rwyf wedi dweud sawl gwaith y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effeithiau’r dreth ystafell wely. Clywais eich ateb cynharach i’m cyd-Aelod Bethan Jenkins, ond, a wnewch chi ystyried rhoi cyfarwyddiadau i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fel y gallant wneud popeth o fewn eu gallu i fanteisio ar y bylchau o ran dosbarthiad ystafelloedd gwely mewn eiddo y mae’r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt? Ar ben hynny, a ydych wedi ystyried sicrhau bod adnoddau ar gael i uwchraddio ac ad-drefnu llety gwarchod gwag presennol fel ei fod yn fwy addas ar gyfer unigolion neu deuluoedd bach y mae’r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt?
 
14:45
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn pwysig yr Aelod. Mae’r sector tai arloesol yn ystyried pob opsiwn o ran lliniaru effeithiau’r dreth ystafell wely. Byddaf yn ei gefnogi i wneud hynny ym mhob ffordd y gallaf; efallai na fydd bob amser drwy gyfrwng cymorth ariannol, ond os oes porth deddfwriaethol y bydd angen inni ei ddefnyddio i’w cefnogi, byddwn yn ceisio gwneud hynny os bydd angen.
 
Tai Fforddiadwy
 
14:45
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
11. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0251(HR)
 
14:45
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r grant tai cymdeithasol ar gael i bob awdurdod lleol, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig, i gynyddu’r gefnogaeth i dai fforddiadwy mewn cymunedau gwledig.
 
14:45
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Deallaf y bydd y grŵp cynghori ar y cynllun datblygu gwledig yn cyfarfod yn weddol fuan. Pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal rhyngoch chi a’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i sicrhau bod tai fforddiadwy yng nghefn gwlad yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda honno?
 
14:46
Carl SargeantBywgraffiad
Ni fu unrhyw drafodaethau hyd yn hyn, ond mae gennyf gyfarfod ag ef y prynhawn yma.
 
14:46
William PowellBywgraffiad
Weinidog, pan gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2010, roedd cryn optimistiaeth mewn cymunedau gwledig yng Nghymru yn gysylltiedig â ‘Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’. Ers ei gyflwyno, credaf ei bod yn deg dweud bod nifer o awdurdodau wedi mabwysiadu egwyddor ragofalus iawn ac mai nifer gymharol fach o anheddau a ildiwyd drwy’r polisi hwnnw. Cyn gynted â phosibl, a wnewch chi ystyried cynnal archwiliad o’r hyn a ildiwyd o ran llety fforddiadwy drwy’r polisi hwnnw? Os felly, a wnewch chi lansio’r polisi hwnnw o’r newydd?
 
14:46
Carl SargeantBywgraffiad
Ni fyddwn yn edrych mor negyddol ar y mater o swyddogion galluogi tai gwledig. Yn 2012-13, gwnaethom sicrhau bod £13.3 miliwn ar gael mewn grantiau tai cymdeithasol mewn naw ardal awdurdod lleol wledig ar gyfer darparu tai fforddiadwy; gwariwyd y swm hwnnw yn llawn.
 
Galw am Dai
 
14:47
Keith DaviesBywgraffiad
12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau gweithredu y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i gwrdd â'r galw am dai? OAQ(4)0258(HR)
 
14:47
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r galw am yr holl ddeiliadaethau tai yn parhau i fod yn her i’r farchnad mewn tai fforddiadwy. Rydym yn gwneud y gorau o gyllidebau cyfyngedig i gefnogi’r gwaith o gyflwyno perchentyaeth rhent a chost isel. Rydym yn gwneud cynnydd da yn erbyn ein targed o 7,500 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, gan ailddechrau defnyddio 5,000 o gartrefi gwag.
 
14:47
Keith DaviesBywgraffiad
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf innau hefyd yn croesawu’r £20 miliwn ar gyfer grant tai cymdeithasol a’r £10 miliwn i gynllun peilot Troi Tai’n Gartrefi a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid ddoe. Rwy’n cadeirio fforwm Heol yr Orsaf yn Llanelli sydd, ar y funud, yn hyrwyddo gwaith i wella canfyddiad o’r ardal, sy’n dod o dan bolisi gosod lleol Cyngor Sir Gâr. Mae’r polisi hwn yn ceisio adeiladu cymunedau cryf, integredig a diogel drwy greu cydbwysedd ynddynt. A ydych yn cytuno bod hyn yn esiampl dda o arfer orau sy’n cyfuno cwrdd â’r galw am dai â gwella canfyddiad lleol, sydd, yn y pen draw, yn arwain at alw cynaliadwy?
 
14:48
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn ymwybodol o fanylion y prosiect hwnnw, ond cymeraf ei air ei fod yn enghraifft o arfer gorau. Os yw’n enghraifft o’r fath, dylem ei gyflwyno ym mhob awdurdod lleol. Mae’n bwysig bod y dyraniad o dai gymdeithasol yn gysylltiedig â’r opsiynau tai ehangach i ddiwallu’r angen am dai. Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn cael cyngor a gwybodaeth yn gyson am yr holl opsiynau tai sydd ar gael iddynt. Mae cod canllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar ddyrannu llety a chartrefi yn annog y defnydd o’u polisi gosod; mae’n rhywbeth yr ydym yn glir iawn yn ei gylch gydag awdurdodau lleol.
 
14:49
Suzy DaviesBywgraffiad
Weinidog, croesawn fenter Llywodraeth Cymru i ailddechrau defnyddio cartrefi gwag drwy’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Fodd bynnag, pa amodau a roddwch ar y benthyciadau er mwyn sicrhau bod yr eiddo a adnewyddwyd yn diwallu’r angen lleol a phrinder tai lleol? Sut y caiff yr amodau hynny eu monitro?
 
14:49
Carl SargeantBywgraffiad
Mae meini prawf caeth yn gysylltiedig â’r prosiect Troi Tai’n Gartrefi. Synnaf na chododd yr Aelod y buddsoddiad o £10 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid i gynyddu’r gefnogaeth i’r prosiect Troi Tai’n Gartrefi, y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei rhoi i’n cymunedau ledled Cymru.
 
14:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae cwestiwn 13, OAQ(4)0253(HR), wedi’i drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.
 
Adeiladwyr Tai
 
14:49
Peter BlackBywgraffiad
14. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi eu cael gydag adeiladwyr tai ynglyn â chartrefi sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd? OAQ(4)0242(HR)
 
14:49
Carl SargeantBywgraffiad
Dros y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ddwywaith i drafod y pwysau cyfredol sy’n wynebu’r diwydiant. Roedd yr ail gyfarfod yn cynnwys nifer fawr o adeiladwyr allweddol yng Nghymru, ac rwyf wedi trefnu cwrdd â’r Ffederasiwn yn rheolaidd.
 
14:50
Peter BlackBywgraffiad
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae’r adeiladwyr tai yr wyf wedi siarad â hwy yn awyddus iawn i allu adeiladu mwy o dai yng Nghymru ac yn chwilio am yr amodau iawn er mwyn gwneud hynny. Rydych newydd gael £20 miliwn yn ychwanegol i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd ac, yn y gorffennol, rydych wedi gallu defnyddio arian o’r fath i ddenu arian ychwanegol gan y sector preifat ac ehangu’r datblygiadau a gynhyrchwyd o ganlyniad i hynny. A allwch ddefnyddio rhywfaint o’r £20 miliwn hwn i wneud yr un math o beth a rhoi hwb i waith adeiladu’r sector preifat ar yr un pryd?
 
14:50
Carl SargeantBywgraffiad
Rhoddir y cyllid er mwyn cefnogi cynnydd mewn eiddo un ystafell wely ledled Cymru. Byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog Cyllid. Rydym yn awyddus i sicrhau y gallwn wneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir gan raglenni cyllid arloesol. Yn ddiweddar cyfarfu’r Gweinidog Cyllid â datblygwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb i weld sut y gallwn symud cynlluniau gwahanol yn eu blaenau.
 
14:51
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae adeiladu tai yng Nghymru ar ei lefel isaf ers yr ail ryfel byd, ac mae rhai yn dweud ers y 1920au, ac mae Llywodraeth Cymru, ers 1999, yn ôl ei gwefan StatsWales ei hun, wedi lleihau’r cyflenwad o dai cymdeithasol newydd 70%. Sut, felly, y byddwch yn ymgysylltu â datblygwyr tai fel pennaeth y cwmni adeiladu tai mawr yng Nghymru a ddywedodd wrth y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, er ei fod yn addasu ei fodel busnes mewn ymateb i’r baich rheoleiddio yng Nghymru, ei fod hefyd yn rhagweld llif o fuddsoddiadau i Gymru?
 
14:51
Carl SargeantBywgraffiad
Fel y dywedais yn gynharach, rwyf wedi cyfarfod â’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi. Cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn dim ond yr wythnos diwethaf, ac rydym yn gweithio gydag ef er mwyn sicrhau y gallwn ysgogi’r farchnad i annog gwaith adeiladu newydd ledled Cymru ac i ateb y galw a orfodir gan Lywodraeth y DU yn dilyn dadleoli pobl o’u cartrefi presennol, sy’n golygu bod yn rhaid inni ddarparu cyfleusterau newydd ar eu cyfer.
 
Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011
 
14:52
Ann JonesBywgraffiad
15. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglyn â Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 yn y chwe mis diwethaf? OAQ(4)0243(HR)
 
14:52
Carl SargeantBywgraffiad
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod mater datganoledig Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar reoliadau arfaethedig i weithredu’r Mesur, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin eleni.
 
14:52
Ann JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Nid yw’n syndod i mi nad ydych wedi cwrdd ag ef, gan ei fod wedi gwrthod cwrdd â mi ddwywaith—nid yw wedi ateb dau lythyr yn gofyn am gyfarfod i drafod ei ddiffyg dealltwriaeth ymddangosiadol o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru). Os cewch gyfle i gwrdd ag ef cyn i mi wneud hynny—ac ni fyddaf yn dal fy ngwynt—a wnewch chi ei atgoffa o’r setliad datganoli a bod defnyddio dulliau achub bywyd, fel Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru), yn bwynt gwleidyddol tila ac y dylai roi’r gorau i wneud hynny? 
 
14:52
Carl SargeantBywgraffiad
Clywais gwestiwn yr Aelod yn dda iawn. Fel y dywedais, rydym yn ymgynghori ar y cynigion ar gyfer Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) ar hyn o bryd, a basiwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr. Rhannaf bryderon yr Aelod ynghylch y rhan y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei chwarae yn y broses hon. Ni chredaf y byddai’n ddefnyddiol ychwaith i chi na minnau gwrdd ag ef; mae wedi datgan ei safbwynt yn glir iawn ac, a dweud y gwir, ni chredaf fod ganddo unrhyw beth i’w wneud â hyn o gwbl.
 
14:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
 
14:53
Cynnig Gweithdrefnol
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cefais fy hysbysu gan Antoinette Sandbach ei bod am gyflwyno cynnig trefniadol yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.32 i ohirio’r ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw. Galwaf ar Antoinette Sandbach i gyflwyno’r cynnig.
 
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog Rhif 12.32, yn gohirio’r ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Antoinette Sandbach.
 
14:53
Antoinette SandbachBywgraffiad
Cyflwynaf y cynnig.
 
14:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig trefniadol i ohirio’r ddadl fer. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes gwrthwynebiad. Mae’r cynnig, felly, wedi’i dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig.
 
14:54
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad Undydd i Farw-enedigaethau yng Nghymru
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno’r cynnig.
 
Cynnig NDM5231 Vaughan Gething
 
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.
 
14:54
Vaughan GethingBywgraffiad
Cynigiaf y cynnig.
 
Rwy’n falch o gael agor y ddadl hon ar bwnc pwysig marw-enedigaethau ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae marw-enedigaeth plentyn yn drasiedi sy’n dinistrio teuluoedd. Mae tua phedwar baban yn cael eu geni’n farw bob wythnos yng Nghymru, serch hynny, ychydig iawn a wyddom am farw-enedigaethau fel poblogaeth, yn enwedig yr hyn sy’n ei achosi a’r hyn y gellir ei wneud i’w atal. Dyma’r math mwyaf cyffredin o farwolaeth ymhlith plant. Mae 10 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaeth yn y crud, 40 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaethau plant ar y ffyrdd, ac 80 gwaith yn fwy cyffredin na llid yr ymennydd ymhlith plant. Bu’r ffigurau digalon hyn yn sbardun i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal yr ymchwiliad undydd hwn.
 
Ein prif nod wrth ymgymryd â’r gwaith hwn oedd nodi ble y gellid gwneud gwelliannau—wedi’r cyfan, prin iawn y mae cyfraddau marw-enedigaethau wedi newid yng Nghymru ers dechrau’r 1990au. Roeddem hefyd am daflu goleuni ar bwnc sydd wedi’i esgeuluso’n rhy hir, y mae angen mynd i’r afael ag ef a’i drafod o ddifrif. Cyn troi at fanylion yr adroddiad, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i’r ymchwiliad. Cawsom gymorth gan grŵp ymroddedig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau, academyddion a rhieni mewn profedigaeth, y rhoddodd pob un ohonynt gipolwg pwysig ar y pwnc sensitif ac anodd hwn. Diolch yn arbennig i Isobel Martin, a dynnodd ein sylw at y mater hwn i ddechrau ac sy’n parhau i ymgyrchu dros fwy o ymchwil yn y maes hwn yn dilyn marw-enedigaeth ei merch, Holly, bron 30 mlynedd yn ôl.
 
Roedd aelodau’r pwyllgor yn unfryd o blaid yr adroddiad hwn. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn ystod ein hymchwiliad yn cyfeirio at un casgliad allweddol. Nid oes un cam penodol a fyddai, pe cai ei gymryd, yn dileu’r risg o farw-enedigaethau. Serch hynny, roeddem yn credu’n gryf fod meddylfryd sy’n chwilio am yr ateb perffaith ar draul yr hyn sy’n bosibl wedi atal cynnydd yn hyn o beth. Mae’n hen bryd inni ystyried y camau bach cymharol syml a luniwyd eisoes—a’r rhai y gellid eu llunio—er mwyn gwneud gwahaniaeth i gyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru. Credwn fod angen cymryd y camau hynny nawr.
 
Yn yr amser sydd gennyf i agor y ddadl, cyfeiriaf at rai o’r materion a hoelied ein sylw. Dyma’r meysydd y gwnaethom argymhellion yn eu cylch a lle credwn y gellid cynnig gwelliannau pendant i rieni ym mhob cwr o Gymru. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn i gyd, mewn egwyddor o leiaf. Croesawn hefyd benderfyniad i sefydlu’r gweithgor cenedlaethol ar farw-enedigaethau a fydd, gobeithio, yn llywio gwelliant mawr ei angen yn y maes hwn.
 
Mae argymhellion 1 a 2 yn ymwneud ag elfen fwyaf trawiadol ein hymchwiliad, sef yr angen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o farw-enedigaethau a’r ffactorau risg er mwyn lleihau cyfraddau yng Nghymru. Er bod rhai materion sy’n llai cyffredin na marw-enedigaeth, fel syndrom Down a marwolaeth yn y crud, yn cael eu trafod yn eithaf agored gyda darpar rieni, roedd yn amlwg bod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn amharod iawn i drafod marw-enedigaethau a’r ffactorau risg. Credwn fod sicrhau bod hyn yn cael ei drafod â phob mam feichiog yn hanfodol i fynd i’r afael â chyfradd sefydlog marw-enedigaethau yng Nghymru nad yw’n newid o gwbl. Rydym yn falch y bydd y gweithgor cenedlaethol ar farw-enedigaethau yn cael y dasg o sicrhau gwelliannau yn y maes hwn a byddwn yn cadw golwg ar gynnydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
 
Mae argymhellion 3 a 4 yn mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth a hyfforddiant proffesiynol, a pharhad gofal. Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg bod ymwybyddiaeth rhai gweithwyr iechyd proffesiynol o farw-enedigaethau a’r ffactorau risg yn annigonol. Galwyd am welliannau i gwricwla hyfforddi ar gyfer clinigwyr a bydwragedd er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth hwn. Dadleuwyd y gallai hyn helpu i fynd i’r afael â’r amrywiaeth mewn safonau gofal ledled Cymru a nodwyd gan nifer o dystion. Rydym yn falch bod y cyrff proffesiynol a rheoleiddio perthnasol bellach yn ceisio gwella cwricwla hyfforddi. Croesawn hefyd waith Llywodraeth Cymru i ystyried cwmpas a hyfywedd sefydlu rhwydwaith mamolaeth er mwyn sicrhau y caiff arfer gorau ei rannu ledled Cymru.
 
Mae argymhelliad 5 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o nifer y merched yng Nghymru sy’n rhoi genedigaeth fwy na 13 diwrnod ar ôl y dyddiad y disgwylir iddynt roi genedigaeth. Mae genedigaethau wedi’r dyddiad yn un o’r ffactorau prin ym maes marw-enedigaethau y gwyddom—ac mae gennym dystiolaeth i brofi hynny—eu bod yn arwain at risg uwch. Awgrymodd tystiolaeth a gyflwynwyd inni fod angen gwneud rhagor o waith i ystyried pam, mewn rhai achosion, na chaiff cyfnod esgor merched ei ysgogi o fewn y cyfnod a argymhellir, sef 10 i 12 diwrnod ar ôl y dyddiad y disgwylir iddynt roi genedigaeth. Clywsom y gellir priodoli’r oedi yn rhannol i ddewis y fam, gyda mamau’n awyddus i osgoi ymyrryd lle y bo’n bosibl. Roedd yn destun pryder, fodd bynnag, y gall diffyg adnoddau hefyd chwarae rôl mewn oedi o’r fath. Credwn y dylid ystyried ymhellach a ddylid ysgogi cyfnod esgor merched sydd â ffactorau risg uchel eraill, fel oedran hŷn, ysmygu neu bwysau, yn agosach at y dyddiad y disgwylir iddynt roi genedigaeth. Rydym yn falch y bydd y gweithgor cenedlaethol at farw-enedigaethau yn ystyried yr holl faterion hyn erbyn mis Mawrth 2014.
 
Mae argymhelliad 6 yn ymwneud ag adnoddau. Mae’n amlwg bod materion yn ymwneud ag adnoddau, yn enwedig o ran staffio, yn hollbwysig i gynnal gofal o ansawdd uchel. Awgrymodd tystiolaeth a gafwyd fel rhan o’n hymchwiliad fod angen dau arbenigwr llawn amser pellach ym maes meddygaeth y ffetws ar wlad o faint Cymru. Dywedwyd wrthym fod yr angen i ymgynghori ag arbenigwyr ym maes meddygaeth y ffetws y tu allan i Gymru, o ganlyniad i’r prinder honedig hwn, bellach yn fwy costus na darparu’r gwasanaeth yng Nghymru. Rydym yn falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i asesu’r opsiynau ar gyfer darparu meddygaeth y ffetws arbenigol ar gyfer poblogaeth Cymru.
 
Gyda bron hanner yr holl achosion o farw-enedigaethau yn rhai ‘anesboniadwy’, mae argymhelliad 7 ein hadroddiad yn mynd i’r afael â’r angen i wneud mwy o waith i ddeall yr achosion sylfaenol yn well. Dywedwyd wrthym yn ystod ein hymchwiliad, hyd yn oed os defnyddiwn yr adnoddau sydd gennym eisoes i safoni gofal a gwella cyfraddau canfod babanod sydd mewn perygl, fod gormod na wyddom amdano o hyd ym maes marw-enedigaethau. Awgrymodd y dystiolaeth a gawsom nad yw’r diffyg dealltwriaeth hwn yn deillio o ymgais i chwilio am atebion a methu â dod o hyd iddynt, ond yn hytrach fod ein hanwybodaeth gymharol yn deillio i raddau helaeth o ddiffyg adolygu ac ymchwil feddygol yn y maes hwn.
 
Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad y dylid datblygu safon genedlaethol ofynnol ar gyfer adolygu marwolaethau amenedigol a’i chyflwyno ledled Cymru. At hynny, croesawn y ffaith bod y Llywodraeth yn cynnal trafodaethau ar ddatblygu archwiliad amenedigol cenedlaethol i Gymru, ac fe’i hanogwn i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn cyn gynted â phosibl.
 
Roedd pwysigrwydd cynnal post-mortem fel modd i ddeall achosion sylfaenol marw-enedigaethau yn well yn thema gref yn yr ymchwiliad. Dywedodd tystion wrth y pwyllgor, am nad yw’r rhesymau dros gyfran fawr o farw-enedigaethau yn hysbys, fod angen ystyried achosion yn fanylach, ac mai’r ffordd fwyaf defnyddiol o wneud hynny yw drwy bost-mortem. Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae’n amlwg o’r dystiolaeth mai nifer fach o archwiliadau post-mortem a gynhelir ledled y DU, ac mae’n hawdd deall pam. Fodd bynnag, yng Nghymru, dywedwyd wrthym fod hyn, yn rhannol o leiaf, oherwydd prinder honedig o batholegwyr amenedigol. Dywedodd tystion wrth y pwyllgor fod rhieni sy’n cydsynio i bost-mortem gael ei gynnal yn wynebu sawl wythnos o oedi cyn y gallant gladdu eu babanod. At hynny, mae llawer yn wynebu’r posibilrwydd y bydd yn rhaid i’w baban gael ei gludo cryn bellter. Dywedwyd wrthym fod yr anawsterau hyn yn parhau oherwydd diffyg hyder a sgiliau ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol i drafod post-mortem gyda rhieni mewn profedigaeth ddiweddar.
 
Mae argymhelliad 8 yn ein hadroddiad yn cydnabod rôl bwysig archwiliadau post-mortem o ran deall achosion marw-enedigaethau. Anogwn y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun manwl sy’n nodi sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r broblem a achosir gan y gyfradd isel o archwiliadau post-mortem ar gyfer babanod marw-anedig. Rydym yn falch bod yr argymhelliad hwn wedi cael ei dderbyn. Rydym hefyd yn falch o weld bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd gallu trefnu post-mortem ar ddyddiad penodol a chludo baban, os oes angen, i’r lleoliad hwnnw ac oddi yno, er mwyn sicrhau bod rhieni’n gwybod ble mae eu baban bob amser.
 
Roedd yr angen am fwy o ymchwil a gwell ymchwil i farw-enedigaethau yn un o themâu amlwg yr ymchwiliad. Mae ein argymhelliad terfynol—argymhelliad 9—yn mynd i’r afael â’r maes hwn. Roedd y ffaith bod ymchwil i farw-enedigaethau wedi cael ei hesgeuluso o gymharu â chyflyrau eraill, a photensial gwaith pellach i leihau’r gyfradd sefydlog yng Nghymru, yn amlwg inni. Cawsom wybod bod nifer y babanod sy’n marw yn y crud wedi gostwng 70% o ganlyniad uniongyrchol i ymchwil. Dywedwyd wrthym y gellid gwneud cynnydd tebyg mewn perthynas â marw-enedigaethau pe rhoddid sylw tebyg i’r maes ymchwil hwn.
 
Yn absenoldeb elusennau mwy a diwydiant â diddordeb sy’n ariannu’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil i gyflyrau iechyd eraill, credwn y dylai Llywodraeth Cymru, drwy Ganolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gomisiynu darn cynhwysfawr o waith ar achosion sylfaenol marw-enedigaethau. Credwn y dylai’r gwaith gael ei gwblhau a’i gyhoeddi cyn diwedd y Cynulliad hwn.
 
Er ein bod yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nodwn y bydd y gwaith ar y cyd â’r Alban, fel y cynigiwyd yn ymateb y Gweinidog, ond yn ystyried sut y gall canfod a rheoli lleihad yn symudiadau’r ffetws helpu i leihau cyfraddau marw-enedigaethau. O gofio bod ein hymchwiliad yn awgrymu na fyddai ystyried un ffactor yn unig yn ddigon, gofynnwn i waith pellach mewn meysydd megis diffyg tyfiant y ffetws hefyd gael ei ystyried. Byddwn yn ddiolchgar pe bai’r Gweinidog yn ystyried y pwynt hwn ac yn ystyried a ddylid hefyd wneud mwy o waith ar ffactorau eraill heblaw lleihad yn symudiadau’r ffetws.
 
Wrth ddod â’m sylwadau i ben, hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu cyfraniad at yr ymchwiliad. Fel gyda phob ymchwiliad a gynhelir gan ein pwyllgor, bwriadwn ddychwelyd at y mater hwn yn ddiweddarach yn ystod y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau bod ein hargymhellion a’r ymrwymiadau a wnaed yn cael eu cyflawni.
 
15:05
William GrahamBywgraffiad
Hoffwn ymuno â’r Cadeirydd i ddiolch i’r rhai a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, yn enwedig y rhai a ddygodd sylw’r pwyllgor at y mater, ac yn benodol 1,000 o Fywydau a Mwy. Mae tua phedwar baban yn cael eu geni’n farw yng Nghymru bob wythnos, fel y soniodd y Cadeirydd. Mae’n rhywbeth sy’n peri pryder mawr i bob aelod o’r pwyllgor, a bydd pob Aelod yma yn ymwybodol o’r sefyllfa eithriadol o anodd hon mewn bywyd teuluol. Yn 2011, cafodd 150 o fabanod eu geni’n farw yng Nghymru, ac er bod cyfraddau marwolaethau newydd-anedig a babanod wedi gwella’n sylweddol dros y degawd diwethaf, prin y mae cyfraddau marw-enedigaethau wedi newid. Mae’r gyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig, yn parhau’n uwch nag yn y rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop. Mewn dadansoddiad diweddar yn ‘The Lancet’, roedd y DU yn y 33ydd safle o blith 35 o wledydd o incwm tebyg mewn perthynas â chyfradd marw-enedigaethau.
 
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y gyfradd bresennol yng Nghymru yn hollol annerbyniol a bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o farw-enedigaethau a’r ffactorau risg sy’n cyfrannu atynt. Mae angen gwneud mwy hefyd i ddeall achosion sylfaenol marw-enedigaethau, yn benodol, fel y mae’r Cadeirydd eisoes wedi’i grybwyll, gan fod mwy na hanner yr holl achosion yn cael eu hystyried yn rhai anesboniadwy ar hyn o bryd. Ni allwn ddisgwyl i un cam drawsnewid y darlun cyfan—mae natur marw-enedigaethau yn rhy gymhleth i dybio bod ateb syml yn bodoli—ond mae peidio â gwneud pethau y gwyddom eisoes y gallant helpu dim ond am na allwn ddatrys popeth ar hyn o bryd yn parhau i fod yn annerbyniol. Mae hyn yn cyd-fynd â chasgliad allweddol y pwyllgor nad oes un cam penodol a fyddai, pe câi ei gymryd, yn dileu’r risg o farw-enedigaethau yng Nghymru, ond credaf fod meddylfryd sy’n chwilio am yr ateb perffaith ar draul yr hyn sy’n bosibl wedi atal cynnydd yn hyn o beth. Mae’n hen bryd ystyried y camau cymharol fach a luniwyd eisoes, neu y gellid eu llunio’n gymharol ddidrafferth, er mwyn gwneud gwahaniaeth i gyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru.
 
Dengys argymhellion 1 a 2 fod rhieni’n synnu o weld pa mor gyffredin yw marw-enedigaeth. Yn wir, mae amharodrwydd ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol i siarad amdano rhag ofn y byddant yn codi bwganod. Ni chaiff ei normaleiddio yn yr un modd â marwolaeth yn y crud a syndrom Down. Mae datblygu a chyfleu negeseuon iechyd cyhoeddus yn allweddol, ac rwy’n falch y bydd y gweithgor cenedlaethol ar farw-enedigaethau yn arwain y gwaith hwn. Fodd bynnag, er mwyn rhoi gwybodaeth i ddarpar rieni, bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff ynglŷn â sut y dylid ei rhoi.
 
Mae argymhelliad 3 yn canolbwyntio ar hyfforddiant ac yn nodi nad yw’r cwricwla bydwreigiaeth na meddygol yn canolbwyntio ar farw-enedigaeth. Mae gwybodaeth gweithwyr proffesiynol am ddiffyg twf y ffetws neu leihad mewn symudiadau yn amrywio. Gallai diffyg ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau fod yn rheswm pam na chaiff llawer o ferched â ffactorau risg eu nodi, a chredaf ei bod yn drueni mawr mai dim ond mewn egwyddor y gallai Llywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad. Unwaith eto, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 8, byddwn yn croesawu sicrwydd gan y Gweinidog ynghylch sut y caiff yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno.
 
Mae argymhellion 7 a 9 yn canolbwyntio ar hyfforddiant ac mae’r prif swyddog nyrsio wedi cydnabod nad yw Cymru’n dda iawn am ddysgu gwersi cenedlaethol o’r trasiedïau hyn. Gallai ymchwil well ac archwiliadau amenedigol mwy cynhwysfawr leihau cyfraddau marw-enedigaethau a byddant yn arbed arian yn yr hirdymor. Ni ddylid llaesu dwylo o ran y mater hwn. Mae’n bleser nodi, o ganlyniad uniongyrchol i ymchwil, fod nifer y babanod sy’n marw yn y crud wedi gostwng 70%. Ymchwil a ddarparodd system sgrinio ar gyfer syndrom Down, ond, yn absenoldeb elusennau mawr sy’n arbenigo yn y maes hwn, rhaid i ymchwil gael ei hariannu drwy adnoddau’r Llywodraeth. Mae angen mabwysiadu dull mwy dychmygus o ariannu ymchwil feddygol drwy gyllid Llywodraeth Cymru, ac er bod y Gweinidog wedi derbyn yr angen am ymchwil, byddwn yn gwerthfawrogi diweddariad ar y gwaith ar y cyd ag astudiaethau’r Alban.
 
Ategaf ganfyddiadau’r pwyllgor a gobeithiaf y bydd yr argymhellion hyn yn tynnu sylw at faes sydd wedi cael ei esgeuluso’n rhy hir ac sydd angen ei wella’n ddirfawr. Er bod nifer yr achosion o farw-enedigaethau yn y Deyrnas Unedig wedi parhau’n ddigyfnewid i raddau helaeth ers dros chwarter canrif, gwyddom hefyd fod gwledydd eraill wedi llwyddo i ostwng eu cyfraddau marw-enedigaethau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’n ddyletswydd arnom bellach i wneud yr un peth yng Nghymru.
 
15:09
Jenny RathboneBywgraffiad
Hoffwn longyfarch aelodau’r pwyllgor am baratoi adroddiad ardderchog. Mae’n dangos yr hyn y gellir ei wneud mewn ymchwiliad undydd, gan ei fod yn drylwyr ac yn eang ei gwmpas. Credaf ei fod yn wych.
 
Mae’n werth nodi, yn wahanol i farw-enedigaethau, fod y DU yn arwain y byd mewn perthynas â lleihau marwolaethau ymysg mamau. Dim ond 4.67 o famau fu farw wrth roi genedigaeth fesul 100,000 o enedigaethau. Mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn â’r gyfradd marw-enedigaethau, sef rhwng 4.2 a 5.0 o farwolaethau fesul pob 1,000 o enedigaethau. Felly, mae’r siawns y caiff baban ei eni’n farw 100 gwaith yn fwy tebygol na’r siawns y bydd mam yn marw wrth roi genedigaeth. Mae’r ddau beth yn drasiedi, ac rwy’n siŵr ein bod am osgoi’r naill beth a’r llall, ond credaf fod canolbwyntio ymdrechion ar leihau nifer y marwolaethau ymhlith mamau wrth roi genedigaeth a’u dileu, lle y bo’n bosibl, yn un o’r rhesymau pam bod gennym ffigur mor sylweddol o hyd.
 
Mae’r Ganolfan Ymholiadau Mamau a Phlant yn cynnal ymchwiliadau cyfrinachol i farwolaethau merched yn ystod beichiogrwydd ar gyfer y DU gyfan bob tair blynedd. Yn 2011, fe’i cadeiriwyd gan Dr Gwyneth Lewis. Fel rhan o gyflwyniad yr adroddiad diweddaraf, dywed,
 
Y rheswm pam bod y gyfradd marwolaethau ymhlith mamau yn y DU yn gymharol isel yw ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddeall ac yna weithredu ar y prif resymau pam bod rhai mamau’n marw yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.
 
Pan chwiliais am wybodaeth am farw-enedigaethau ar gronfa ddata Grŵp Beichiogrwydd a Phlentyndod Cochrane, sef y grŵp cydweithredol rhyngwladol ar arfer gorau ym maes geni plant, cefais fy synnu na allwn ddod o hyd i unrhyw beth am farw-enedigaethau. Efallai fod y wybodaeth yno, ond ni allwn ddod o hyd iddi oherwydd y ffordd roedd y llenyddiaeth wedi’i chyflwyno. Fodd bynnag gwn y bydd y Ganolfan Er Geni Gwell, a agorodd yn ddiweddar yn ysbyty merched Lerpwl—y ganolfan eni fwyaf yn Ewrop—yn helpu i unioni hynny oherwydd mae’r ganolfan yn canolbwyntio’n benodol ar farw-enedigaethau. Felly, gobeithiaf y bydd ein grŵp marw-enedigaethau cenedlaethol yn cydweithio â’r Ganolfan Er Geni Gwell, sef canolfan gydweithredol rhwng Prifysgol Lerpwl ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Menywod Lerpwl, yn enwedig o gofio ei bod yn agos i’r gogledd.
 
Credaf fod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi’n glir rai o’r cysylltiadau achosol tebygol y bydd yn werth ymchwilio iddynt ac yn ein helpu i egluro pam bod marw-enedigaethau yn digwydd, yn enwedig yn y 95% o achosion lle na ragwelwyd y risg o gymhlethdodau. Mae hynny’n amlwg yn faes y mae angen inni ymchwilio iddo.
 
15:12
Elin JonesBywgraffiad
Fel eraill o aelodau’r pwyllgor, hoffwn ddiolch i’r holl dystion a roddodd dystiolaeth mor bwerus ar farw-enedigaethau. Mae marw-enedigaeth yn ddigwyddiad mor drychinebus i famau ac i deuluoedd. Roedd y pwyllgor yn gwbl glir fod y gyfradd o farw-enedigaethau yng Nghymru yn annerbyniol o uchel. Prin mae’r gyfradd honno wedi newid ers y 1990au cynnar, tra bod y gyfradd marwolaethau ôl-enedigaeth wedi gostwng yn sylweddol. Mae tystiolaeth o wledydd eraill, o wledydd Sgandinafia yn enwedig, ei bod yn bosibl i ostwng y gyfradd o farw-enedigaethau, ond bydd yn cymryd cyfuniad o sawl mesur gwahanol i wneud hynny. Does dim bwled arian yn yr achos hwn a fyddai’n gostwng y gyfradd o farwolaethau.
 
Mae’n bosibl mai’r camau hawsaf i’w cymryd fyddai cynyddu ymwybyddiaeth drwy negeseuon iechyd cyhoeddus o farw-enedigaethau a’r ffactorau risg cysylltiedig. Yn benodol iawn, fe glywon ni dystiolaeth am yr amharodrwydd i drafod marw-enedigaethau gyda darpar rieni. Dywedodd y grŵp Sands wrthym fod bydwragedd a staff proffesiynol yn barod iawn i drafod gyda darpar rieni y perygl o farwolaeth yn y crud neu ‘Down’s syndrome’, ond nad oedd y posibilrwydd o farw-enedigaethau yn cael ei grybwyll wrth ddarpar rieni yn aml iawn. Yr oedd bron yn destun ‘taboo’ mewn trafodaethau o’r math. Roedd ofn ar y staff proffesiynol y byddent yn codi ofn ar ddarpar rieni ac yr oedd y tystion proffesiynol hefyd yn barod i gydnabod bod hynny’n realiti. Mae’n hollbwysig felly fod y diwylliant yn cael ei weddnewid. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hyn a bod y Llywodraeth yn mynd i weithio gyda chyrff proffesiynol a byrddau iechyd i sicrhau bod y drafodaeth ar farw-enedigaethau a risgiau cysylltiol yn dod yn rhan o’r sgwrs naturiol ac arferol rhwng darpar rieni a gweithwyr iechyd.
 
O ran negeseuon iechyd cyhoeddus i ddarpar rieni, mae angen i’r Llywodraeth edrych yn arbennig iawn ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ein gwlad. Mae’r lefelau marw-enedigaethau yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru a thu hwnt. Felly, mae angen targedu’r negeseuon iechyd cyhoeddus at yr ardaloedd hyn, gan ganolbwyntio ar ffactorau ffordd o fyw, yn enwedig ysmygu a gordewdra, ill dau yn ffactorau risg o ran marw-enedigaeth.
 
Yn ogystal â’r camau y gellid eu cymryd i wella gwybodaeth i’r cyhoedd a darpar rieni, cam tymor byr arall y dylid ei gymryd i wella’r sefyllfa yw cydlynu’r dadansoddiad o bob achos o farw-enedigaeth, gan ddysgu ohonynt a rhannu unrhyw wersi o’r achosion unigol hyn. Fel y dywedodd y prif swyddog nyrsio wrthym, mae nifer yr achosion o farw-enedigaethau yn gymharol fechan, ac mae manylion pob un achos yn wybyddus i’r awdurdodau. Fe ellid dadansoddi a rhannu gwybodaeth a gwersi yn hawdd, ond nid yw hynny’n digwydd yn systematig hyd yn hyn. Mae’n bwysig bod hyn yn dechrau digwydd, fel y bydd banc o ddealltwriaeth ar farw-enedigaethau ymysg y gweithlu proffesiynol, a’r banc o ddealltwriaeth hwnnw yn ehangu.
 
Mae’r pwynt olaf yr wyf eisau ei wneud yn gysylltiedig â dealltwriaeth o farw-enedigaeth yw pwynt ynglŷn â lefel y post-mortemau wedi marw-enedigaeth a’r ffaith bod y gyfradd ar gyfer post-mortemau yn isel, er y byddai’r budd a geid o’u cynnal ar yr unigolion hyn yn sylweddol iawn. Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru felly gymryd camau i gynyddu nifer y post-mortemau drwy greu’r amgylchiadau i gynnal post-mortem cyflym, effeithiol a hwylus i rieni, ac mae’n bwysig hefyd ddarparu hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, fel eu bod yn fwy abl i godi’r mater hynod anodd a sensitif hwn gyda rhieni sy’n galaru.
 
Mae adroddiad y pwyllgor wedi bwrw golau ar bwnc pwysig iawn. Yn awr, mae’r cyfrifoldeb yn trosglwyddo i’r Gweinidog ac i’r Llywodraeth i weithredu ar argymhellion y pwyllgor.
 
15:17
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Dechreuaf y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i’m hetholwraig, Isobel Martin, a sefydlodd ymddiriedolaeth er cof am ei merch Holly, gan ei bod hi ac aelodau o grwpiau Sands ym mhob cwr o Gymru wedi dangos cymaint o ymrwymiad a phenderfyniad i dynnu sylw at y materion sy’n ymwneud â marw-enedigaethau ac ymgyrchu dros newidiadau mewn gwasanaethau ac ymchwil i leihau’r risg a lleihau nifer y babanod a gaiff eu colli. Ho