Your Assembly Members leaflet

Published 24/11/2010   |   Last Updated 24/11/2014

Eich Aelodau Cynulliad chi

Croeso i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae 60 o Aelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol a chânt eu hethol gan bobl Cymru i'w cynrychioli nhw a'u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.

Beth yw Aelod Cynulliad?

Mae Aelod Cynulliad yn berson, o'ch cymuned neu'ch rhanbarth chi o Gymru, sydd yn cael ei ethol gan eich pleidlais chi. Mae Aelodau’r Cynulliad yn eich cynrychioli chi a'ch buddiannau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Aelodau'r Cynulliad yn gwneud llawer o'u gwaith yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ond maent hefyd yn treulio llawer o amser yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau ar hyd a lled Cymru.

Gallwch gysylltu â'ch Aelod Cynulliad i siarad am unrhyw beth sy'n digwydd yn eich ardal leol.
www.cynulliad.cymru/aelodau

Sut y caiff Aelodau'r Cynulliad eu hethol?

Caiff etholiadau'r Cynulliad eu cynnal bob pum mlynedd. Caiff Aelodau'r Cynulliad eu hethol i gynrychioli ardal benodol yng Nghymru fel aelodau o blaid wleidyddol neu fel Aelod Cynulliad annibynnol.

Mae cyfanswm o 60 o Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – 40 ohonynt yn Aelodau Cynulliad Etholaethol, sy'n cynrychioli etholaethau lleol fel yr Aelodau Seneddol yn San Steffan. Aelodau Rhanbarthol yw'r 20 Aelod arall, ac mae'r rhain yn cynrychioli un o bump o ranbarthau Cymru.

Mae hyn yn golygu bod gan bawb yng Nghymru un Aelod Etholaethol a phedwar Aelod Rhanbarthol i'w cynrychioli.
Mae hyn yn golygu bod buddiannau holl ranbarthau ac etholaethau Cymru yn cael eu cynrychioli i'r un graddau, a bod gan bawb yng Nghymru bump o gynrychiolwyr yn y Cynulliad.

Felly beth y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud?

Yn ogystal â threulio amser yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn y Siambr, lle bydd y Senedd yn cyfarfod i drafod mewn 'Cyfarfod Llawn'. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, byddant yn trafod ac yn cymryd rhan mewn dadleuon ar faterion sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod pynciau sydd yn bwysig i Gymru a’i phobl, yn trafod adroddiadau pwyllgorau ac yn deddfu ar gyfer Cymru.

Hefyd, bydd Aelodau'r Cynulliad o bleidiau gwleidyddol nad ydynt yn y Llywodraeth yn cynnal dadleuon ar faterion o'u dewis nhw, a byddant yn aml yn codi pryderon ac yn cynrychioli buddiannau pobl o'u hetholaethau neu eu rhanbarthau.
Caiff y Cyfarfod Llawn ei gadeirio gan y 'Llywydd' sy'n un o Aelodau'r Cynulliad. Ar hyn o bryd, y Fonesig Rosemary Butler AC yw'r Llywydd. Drwy gyfarfod gyda'i gilydd fel hyn, mae gan Aelodau'r Cynulliad gyfle i wneud yn siŵr bod gennych chi lais yn y modd y caiff Cymru ei rhedeg.

Felly beth mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud am bynciau penodol?

Mae Aelodau'r Cynulliad yn eistedd ar bwyllgorau. Grwpiau o Aelodau yw pwyllgorau ac maent yn ystyried yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am faterion penodol. Yna, maent yn awgrymu sut y gall wneud pethau'n well.

Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad 12 o bwyllgorau sydd wedi'u sefydlu i ystyried pynciau penodol. Bydd pob Pwyllgor yn cyflawni tasgau fel archwilio cyfreithiau neu graffu ar benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru. Bydd penderfyniadau unrhyw bwyllgor yn cael eu hysgrifennu mewn adroddiad a chaiff hwnnw ei drafod gan yr holl Aelodau yn y Cyfarfod Llawn.

Gallwch ddylanwadu ar waith pwyllgorau'r Cynulliad a gwneud yn siŵr bod eich profiadau a'r wybodaeth sydd gennych yn effeithio ar yr hyn y byddant yn ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.cynulliad.cymru/pwyllgorau

Sut y gallaf weld beth y mae fy Aelodau Cynulliad i yn ei wneud i mi?

Gallwch weld Aelodau'r Cynulliad wrth eu gwaith drwy ddod i'r Senedd. Gall unrhyw un wylio cyfarfod llawn neu gyfarfodydd Pwyllgor o'r orielau cyhoeddus, neu ar wefan Senedd.tv. y Cynulliad.
www.senedd.tv